National Resources Wales News

09 Oct 2019

Discovery of rare orchid made on a mid-Wales reserve

Discovery of rare orchid made on a mid-Wales reserve: Irish Lady’s-Tresses at Cors Fochno, part of the Dyfi National Nature Reserve

NR10-DT-ONM

An extremely rare orchid called Irish Lady’s-Tresses, unknown elsewhere in Wales or England, has appeared on a mid-Wales reserve managed by Natural Resources Wales (NRW).

A small colony of the creamy white flower spikes were found on Cors Fochno, an internationally renowned raised peat bog between Borth and the Dyfi estuary, and part of the Dyfi National Nature Reserve (NNR).

The discovery was made at the end of July by Justin Lyons, an NRW staff member, as he was checking on the Welsh Mountain Ponies that are used to graze marshy fields around the raised bog.

Mike Bailey NRW Senior Officer – Land Management said: “Wild orchids are well known for long-distance dispersal and unpredictable flowering, they have a short flowering period from mid-July to August, and flowering doesn’t occur every year, so this is an astonishing find.

“Although widespread in north America, in Europe the orchid is confined to a small number of sites in north-west Scotland and Ireland. It has disappeared from its only known English site in Devon and has declined elsewhere.”

Based on genetic studies experts believe that the species may have colonised Ireland from the dust-like seeds blown across the Atlantic, so windblown seed may account for the orchid now appearing in Ceredigion.

NRW manages Cors Fochno and is now planning how best to enable enthusiasts and local people to see the orchids next summer, whilst maintaining the grazing and protecting the colony from inadvertent damage

Cors Fochno is one of seven SACs (Special Areas of Conservation) lowland raised bogs in Wales where EU and Welsh Government funded bog restoration is currently underway.

The New LIFE Welsh raised Bogs Project aims to protect the raised bogs’ important carbon stores, re-generate active peat growth and sustain their wonderful biodiversity.

The Irish Lady’s-Tresses is likely to become the most notable rarity amongst the many scarce inhabitants of Cors Fochno, which include good colonies of Lesser Butterfly Orchid, rare bog mosses and Sundews. Many rare invertebrates such as the Rosy Marsh Moth (a species once thought to be extinct in Britain), Large Heath Butterfly and Bog-Bush-Cricket are also thriving on the reserve.

Sue Parker from the Hardy Orchid Society said: “This exciting discovery is yet another example of the many benefits Wales gets from the continued investment in properly managing our National Nature Reserves.”

Darganfod tegeirian prin ar warchodfa yng Nghanolbarth Cymru

Mae tegeirian prin iawn o'r enw troellig Wyddelig, nad yw'n hysbys yn unman arall yng Nghymru nac yn Lloegr, wedi ymddangos ar warchodfa yng nghanolbarth Cymru a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Daethpwyd o hyd i gytref fach o’r sbigynnau blodau gwyn hufennog ar Gors Fochno, cyforgors fawn o fri rhyngwladol rhwng y Borth ac aber Afon Dyfi, a rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Dyfi.

Gwnaethpwyd y darganfyddiad ddiwedd mis Gorffennaf gan Justin Lyons, aelod o staff CNC, wrth iddo wirio'r Merlod Mynydd Cymreig a ddefnyddir i bori caeau corsiog o amgylch y gyforgors.

Dywedodd Mike Bailey, Uwch Swyddog - Rheoli Tir CNC: “Mae tegeirianau gwyllt yn adnabyddus am wasgaru dros bellter hir a blodeuo anrhagweladwy, mae ganddyn nhw gyfnod blodeuo byr o ganol Gorffennaf i fis Awst, ac nid yw'n blodeuo bob blwyddyn, felly mae hwn yn ddarganfyddiad rhyfeddol.

“Er bod ganddo ddosbarthiad eang yng ngogledd America, yn Ewrop mae'r tegeirian wedi'i gyfyngu i nifer fach o safleoedd yng ngogledd-orllewin yr Alban ac Iwerddon. Mae wedi diflannu o’i unig safle hysbys yn Lloegr - yn Nyfnaint - ac wedi dirywio mewn mannau eraill. ”

Ar sail astudiaethau genetig, mae arbenigwyr yn credu y gallai'r rhywogaeth fod wedi cytrefu yn Iwerddon o hadau tebyg i lwch a chwythwyd ar draws Môr yr Iwerydd, felly gall hadau a gariwyd gan y gwynt gyfrif am y tegeirianau sydd bellach yn ymddangos yng Ngheredigion.

CNC sy'n rheoli Cors Fochno ac mae'r corff bellach yn ystyried y ffordd orau i alluogi pobl leol ac ymwelwyr i weld y tegeirianau'r haf nesaf, wrth gynnal y pori a diogelu'r gytref rhag difrod anfwriadol.

Mae Cors Fochno yn un o saith o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) cyforgorsydd iseldir yng Nghymru lle mae gwaith adfer cyforgorsydd wedi'i ariannu gan yr UE a Llywodraeth Cymru ar y gweill ar hyn o bryd.

Nod Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE yw amddiffyn storfeydd carbon pwysig y cyforgorsydd, ailddechrau tyfiant mawn a chynnal eu bioamrywiaeth ryfeddol.

Mae'n debyg mai'r troellig Wyddelig fydd y rhywogaeth brin fwyaf nodedig o blith llawer ar Gors Fochno, sy'n cynnwys cytrefi da o degeirianau llydanwyrdd bach, migwynnau prin a gwlithlysiau. Mae llawer o infertebratau prin fel Gwrid y gors (rhywogaeth y credwyd ar un adeg ei bod wedi diflannu o Brydain), gweirlöyn mawr y waun a chriciedyn hirgorn y gors hefyd yn ffynnu ar y warchodfa.

Dywedodd Sue Parker o’r Hardy Orchid Society: “Mae'r darganfyddiad cyffrous hwn yn enghraifft arall eto o'r buddion niferus y mae Cymru yn eu cael o'r buddsoddiad parhaus yn rheolaeth briodol ein Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol.”

Contact Information

Notes to editors

Communications office: 029 2046 4227 / communications@naturalresources.wales (24hrs)

  • It’s our job to look after Wales’ natural resources and what they provide for us: to help reduce the risk to people and properties of flooding and pollution; to look after our special places for people’s well-being and wildlife; to provide timber; and to work with others to help us all manage them sustainably. Our people have the knowledge, expertise, and passion to help make the sustainable management of natural resources a reality.

Swyddfa gyfathrebu: 029 2046 4227 /  cyfathrebu@cyfoethnaturiol.cymru (24 awr)

  • Ein swyddogaeth ni yw gofalu am adnoddau naturiol Cymru a'r hyn y maent yn eu darparu ar ein cyfer: i helpu i leihau'r risg i bobl ac adeiladau o lifogydd a llygredd; i ofalu am fannau arbennig ar gyfer llesiant, bywyd gwyllt a phren; ac i weithio gydag eraill i'n cynorthwyo ni i gyd yn y gwaith o'u rheoli mewn modd cynaliadwy. Mae gan ein pobl y wybodaeth, yr arbenigedd a'r brwdfrydedd i helpu i wireddu'r nod o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE yw'r rhaglen adfer genedlaethol gyntaf ar gyfer cyforgorsydd ac ar gyfer unrhyw gynefin mawndir yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth am y prosiect ewch i https://naturalresources.wales/about-us/our-projects/nature-projects/new-life-for-welsh-raised-bogs/?lang=cy