03 Sep 2025
NR-09/25-DWS-WYE
In just 12 months, the Upper Wye Catchment Restoration Project has uncovered a major infestation of American Skunk Cabbage, planted 2,000 trees, delivered two large Slow the Flow schemes, restored rivers on two farms, and brought together more than 50 organisations in a landmark stakeholder workshop – all to revive one of Wales’s most treasured rivers.
Launched at the Royal Welsh Show last year, this Natural Resources Wales project works with farmers, landowners, and local communities to improve water quality, restore natural processes, and strengthen climate resilience in the Upper River Wye Special Area of Conservation.
1. Tackling invasive species head-on
Surveys last year led to the discovery of a previously unrecorded infestation of American Skunk Cabbage on one of the Wye’s tributaries. A tip-off from the public directed the team to other plants at risk of spreading further. American Skunk Cabbage is an invasive plant that spreads its seeds via streams and rivers. It is critical that these are contained to prevent the species from spreading to the main River Wye. Thanks to targeted control work, progress is already being made in containing the infestation. Himalayan Balsam surveying is also underway on key tributaries to help plan a removal strategy over the coming years. Public reports are crucial in adding to existing knowledge, and the team is calling for more eyes on the river.
2. Two Slow the Flow success stories
Working in Welsh Government’s Hafren and Tarenig forests, the team has installed low-cost measures like leaky dams, bunds, and forest drain blocking. These have slowed down flood pulses, trapped sediment, reconnected floodplains, and created richer habitats for wildlife.
Huw Irranca-Davies, Deputy First Minister with responsibility for Climate Change and Rural Affairs, visited the Tarenig Forest to see the progress first-hand.
“We are determined to keep improving our rivers across Wales, including the Wye, and it’s great to see the progress being made,” said the Deputy First Minister. “This work in the upper Wye catchment will benefit the whole river, making it more resilient to climate change and extreme weather and also protecting precious wildlife.”
The Tarenig Forest is now being used as an exemplar demonstration site for other forest managers, showcasing how practical, nature-based solutions can contribute to climate resilience and river restoration - with strong potential for replication across Wales.
3. Restoring rivers on local farms
Two large farm schemes have transformed riverbanks and floodplains, with kilometres of fencing, new buffer zones, off-stream livestock watering points, and wetland creation. These changes will reduce erosion, improve water quality, and support species like the endangered Freshwater Mussel.
4. 2,000 trees planted
The team planted 2,000 native trees at one farm along the river, which, once fully grown will stabilise the riverbanks and create vital future shade for fish.
5. A year of strong partnerships
In October, more than 50 stakeholders – from farmers to conservation charities – came together for the first Upper Wye workshop. Ideas were shared in the field and in discussion, laying the foundations for stronger, long-term collaboration.
6. Eyes in the sky
Drones are being used to capture dramatic before-and-after images, monitor erosion, and guide restoration. The footage has already helped refine project plans and inspire local farmers and landowners.
The next year will build on this momentum – working with farmers and landowners to deliver more work on riverside farms, extending Slow the Flow measures to other forests, expanding tree planting, and continuing the fight against invasive plant species.
“The first 12 months have shown what’s possible when we work together,” said Susie Tudge, Project Lead. “We’ve built strong relationships, delivered real change on the ground, and are creating a foundation for restoring the Upper Wye for our future generations .”
--
Mewn dim ond 12 mis, mae Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf wedi datgelu pla mawr o bidyn-y-gog Americanaidd, wedi plannu 2,000 o goed, wedi cyflawni dau gynllun Arafu'r Llif mawr, wedi adfer afonydd ar ddwy fferm, ac wedi dod â mwy na 50 o sefydliadau ynghyd mewn gweithdy nodedig â rhanddeiliaid – i gyd i adfywio un o afonydd mwyaf gwerthfawr Cymru.
Wedi'i lansio yn Sioe Frenhinol Cymru y llynedd, mae’r prosiect hwn gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda ffermwyr, perchnogion tir a chymunedau lleol i wella ansawdd dŵr, adfer prosesau naturiol, a chryfhau gwydnwch yn erbyn newid yn yr hinsawdd yn Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Gwy Uchaf.
1. Mynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol yn uniongyrchol
Arweiniodd arolygon y llynedd at ddarganfod pla nas cofnodwyd o'r blaen o bidyn-y-gog Americanaidd ar un o lednentydd afon Gwy. Gwnaeth wybodaeth gan aelod o’r cyhoedd ein cyfeirio ni at blanhigion eraill y mae perygl y byddant yn ymledu ymhellach. Mae pidyn-y-gog Americanaidd yn blanhigyn goresgynnol sy'n lledaenu ei hadau trwy nentydd ac afonydd. Mae'n hanfodol ein bod yn atal ymlediad y rhain ac yn atal y planhigyn rhag ymledu i brif afon Gwy. Diolch i waith rheoli wedi'i dargedu, rydym eisoes yn gwneud cynnydd o ran ei atal rhag ymledu ymhellach. Mae gwaith arolygu jac y neidiwr hefyd ar y gweill ar lednentydd allweddol, i helpu i gynllunio strategaeth i gael gwared ar y rhywogaeth dros y blynyddoedd i ddod. Mae adroddiadau gan y cyhoedd yn hanfodol i ychwanegu at ein gwybodaeth, ac mae'r tîm yn galw ar fwy o bobl i gadw llygad ar yr afon.
2. Dwy stori lwyddiant Arafu’r Llif
Gan weithio yng nghoedwigoedd Hafren a Tharenig Llywodraeth Cymru, mae'r tîm wedi rhoi ar waith fesurau cost isel fel argaeau sy'n gollwng dŵr, byndiau, a blocio systemau draenio’r coedwigoedd. Mae'r rhain wedi arafu ymchwyddiadau llifogydd, wedi dal gwaddod, wedi ailgysylltu gorlifdiroedd, ac wedi creu cynefinoedd cyfoethocach i fywyd gwyllt.
Ymwelodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig â Choedwig Tarenig i weld y cynnydd yn uniongyrchol.
“Rydym yn benderfynol o barhau i wella ein hafonydd ledled Cymru, gan gynnwys afon Gwy, ac mae’n wych gweld y cynnydd sy’n cael ei wneud,” meddai’r Dirprwy Brif Weinidog. “Bydd y gwaith hwn yn nalgylch uchaf afon Gwy o fudd i’r afon gyfan, gan ei gwneud yn fwy gwydn i newid yn yr hinsawdd a thywydd eithafol a hefyd yn amddiffyn bywyd gwyllt gwerthfawr.”
Mae Coedwig Tarenig bellach yn cael ei defnyddio fel safle arddangos enghreifftiol ar gyfer rheolwyr coedwigoedd eraill, gan ddangos sut y gall atebion ymarferol, ar sail natur, gyfrannu at wydnwch yn erbyn newid yn yr hinsawdd a gwaith adfer afonydd – gyda photensial cryf i roi atebion tebyg ar waith ledled Cymru.
3. Adfer afonydd ar ffermydd lleol
Mae dau gynllun fferm mawr wedi trawsnewid glannau afonydd a gorlifdiroedd, gan osod cilometrau o ffensys a chreu clustogfeydd newydd, pwyntiau dyfrio i dda byw oddi ar yr afon, a gwlyptiroedd newydd. Bydd y newidiadau hyn yn lleihau erydu, yn gwella ansawdd dŵr, ac yn cynnal rhywogaethau mewn perygl fel y fisglen berlog.
4. 2,000 o goed wedi'u plannu
Plannodd y tîm 2,000 o goed brodorol ar un fferm ar hyd yr afon, a byddant, unwaith y byddant wedi tyfu'n llawn, yn sefydlogi glannau'r afon ac yn creu cysgod hanfodol i bysgod yn y dyfodol.
5. Blwyddyn o bartneriaethau cryf
Ym mis Hydref, daeth mwy na 50 o randdeiliaid – o ffermwyr i elusennau cadwraeth – ynghyd ar gyfer y gweithdy cyntaf yn ardal afon Gwy uchaf. Rhannwyd syniadau yn y maes ac mewn trafodaethau, gan osod y sylfeini ar gyfer cydweithio cryfach dros yr hirdymor.
6. Golwg o’r awyr
Mae dronau'n cael eu defnyddio i dynnu delweddau cyn ac ar ôl dramatig, monitro erydu, ac arwain gwaith adfer. Mae'r lluniau eisoes wedi helpu i fireinio cynlluniau prosiect ac ysbrydoli ffermwyr a pherchnogion tir lleol.
Bydd y flwyddyn nesaf yn adeiladu ar y momentwm hwn – gan weithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir i gyflawni mwy o waith ar ffermydd ar lan yr afon, ymestyn mesurau Arafu’r Llif i goedwigoedd eraill, ehangu’r gwaith o blannu coed, a pharhau â’r frwydr yn erbyn rhywogaethau planhigion goresgynnol.
“Mae’r 12 mis cyntaf wedi dangos yr hyn sy’n bosibl pan fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd,” meddai Susie Tudge, arweinydd y prosiect. “Rydym wedi meithrin cydberthnasau cryf, wedi cyflawni newid go iawn ar lawr gwlad, ac yn gwneud y gwaith paratoi ar gyfer adfer ardal afon Gwy uchaf ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Communications Team
Natural Resources Wales
cyfathrebu@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
For media enquiries, images or to arrange a site visit, please contact the project team: adfergwyuchaf@cyfoethnaturiol.cymru
--
Am ymholiadau gan y cyfryngau, delweddau neu i drefnu ymweliad â'r safle, cysylltwch â thîm y prosiect: adfergwyuchaf@cyfoethnaturiol.cymru