29 May 2019
Officers from Natural Resources Wales (NRW) are now compiling evidence after a pollution incident in South East Wales affected Nant Cylla, a tributary of the River Rhymney over the bank holiday weekend.
Staff were on site near Penpedairheol, Caerphilly, within an hour of receiving a report of what was initially believed to be around 100 dead fish.
Although there were no visible signs of pollution, officers launched an investigation to try and find a source and establish the cause of death, including taking water samples and dead fish to laboratory.
The investigation continued throughout Sunday (26 May) and Monday (27 May) and officers confirmed the number of young and adult trout killed was close to 500, along a little under a kilometre stretch of the river.
The samples will now be analysed, and will inform NRW’s next course of action.
David Letellier, Operations Manager from NRW, said:
“Protecting Wales fantastic rivers is incredibly important for us. As soon as we had reports on this incident our officers were on site to investigate.
“Unfortunately, final numbers of fish killed by this pollution is much higher than we initially thought and has had a devastating effect on local fish stocks.
“We believe we have found the source and we’ll consider what action to take next, including appropriate enforcement action against those responsible.
“We are incredibly grateful to those who reported this incident to us and encourage anyone to report signs of pollution to us on 03000 65 3000 so we can respond.”
Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i bysgod marw.
Mae swyddogion o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bellach yn casglu tystiolaeth yn dilyn digwyddiad o lygredd yn Ne-Ddwyrain Cymru sydd wedi effeithio ar Nant Cylla, un o isafonydd Afon Rhymni yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc.
Roedd staff ar y safle ger Penpedairheol, Caerffili, o fewn awr ar ôl derbyn adroddiad ac yn wreiddiol credid fod tua 100 o bysgod wedi marw.
Er nad oedd unrhyw arwyddion gweladwy o lygredd, lansiodd swyddogion ymchwiliad i geisio dod o hyd i ffynhonnell a chanfod achos y marwolaethau, gan gynnwys cymryd samplau dŵr a physgod marw i’r labordy.
Parhaodd yr ymchwiliad drwy gydol dydd Sul (26 Mai) a dydd Llun (27 Mai) a chadarnhaodd swyddogion fod nifer y brithyll ifanc ac oedolion oedd wedi marw tua 500, a hynny ar hyd ychydig llai na chilomedr o'r afon.
Nawr bydd y samplau yn cael eu dadansoddi ac yn cyfarwyddo camau nesaf CNC.
Meddai David Letellier, Rheolwr Gweithrediadau CNC:
"Mae gwarchod afonydd arbennig Cymru yn anhygoel o bwysig i ni. Cyn gynted ag y clywsom am y digwyddiad hwn, roedd ein swyddogion ar y safle er mwyn cynnal ymchwiliad.
"Yn anffodus, mae'r niferoedd terfynol o bysgod sydd wedi marw o ganlyniad i’r llygredd hwn yn llawer uwch nag oeddem ni’n tybio i ddechrau ac mae’r digwyddiad wedi cael effaith ddinistriol ar stociau pysgod lleol.
"Rydym yn credu ein bod wedi dod o hyd i'r ffynhonnell a byddwn yn ystyried pa gamau i'w cymryd nesaf, gan gynnwys camau gorfodi priodol yn erbyn y sawl sy'n gyfrifol.
"Rydym yn hynod ddiolchgar i'r rhai a roddodd wybod i ni am y digwyddiad hwn ac yn annog unrhyw un i roi gwybod am unrhyw arwyddion o lygredd inni drwy ffonio 03000 65 3000 er mwyn i ni allu ymateb."
Communications Team
Natural Resources Wales
communications@naturalresourceswales.gov.uk
Communications office: 029 2046 4227 / communications@naturalresources.wales (24hrs)
• It’s our job to look after Wales’ natural resources and what they provide for us: to help reduce the risk to people and properties of flooding and pollution; to look after our special places for people’s well-being and wildlife; to provide timber; and to work with others to help us all manage them sustainably. Our people have the knowledge, expertise, and passion to help make the sustainable management of natural resources a reality.
• For more information www.naturalresources.wales
Swyddfa gyfathrebu: 029 2046 4227 / cyfathrebu@cyfoethnaturiol.cymru (24 awr)
• Ein swyddogaeth ni yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw gofalu am yr adnoddau naturiol hyn a'r hyn y maent yn eu darparu ar ein cyfer: i helpu i leihau'r risg i bobl ac adeiladau o lifogydd a llygredd; i ofalu am fannau arbennig ar gyfer ein llesiant a bywyd gwyllt; a phren; ac i weithio gydag eraill i'n cynorthwyo ni i gyd yn y gwaith o'u rheoli mewn modd cynaliadwy. Mae gan bobl sy'n gweithio yn CNC y wybodaeth, yr arbenigedd a'r brwdfrydedd i helpu i wireddu'r nod o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
• Am ragor o wybodaeth www.cyfoethnaturiol.cymru