National Resources Wales News

12 Mar 2026

Natural Resources Wales marks International Day of Action for Rivers with celebration of river restoration across Wales

Natural Resources Wales marks International Day of Action for Rivers with celebration of river restoration across Wales: NRW River Projects

NR-03/26-DWS-WYE

On International Day of Action for Rivers (Saturday 14 March 2026), Natural Resources Wales (NRW) is highlighting its large-scale programme of river restoration across Wales - taking action to improve water quality, restore habitats and build resilience to climate change.

Rivers across Wales are facing significant pressures, including climate change, pollution, habitat degradation and barriers to fish migration. NRW is responding through long-term, nature-based solutions that work with natural processes to restore river health while supporting wildlife, communities and local economies.

Catchment-scale action in the Upper Wye

In mid-Wales, NRW’s Upper Wye Catchment Restoration Project - funded by Welsh Government’s Nature and Climate Emergency Fund - is working in partnership with farmers and landowners to restore the upper reaches of the River Wye Special Area of Conservation (SAC).

The project’s approach is built on co-design and voluntary participation, tailoring fully funded measures to individual farms and delivering cumulative benefits across the whole catchment.

Since launching in July 2024, work delivered to date includes:

  • 30 farm advisory visits completed, with funded improvement works underway
  • 8km of river corridor improvements, including stock-proof fencing installed to protect banks and fish spawning habitat
  • Alternative livestock drinking points installed on farms to reduce bank erosion and nutrient inputs
  • Around 10,000 native riverside trees planted, with up to 30,000 saplings in total to be supplied over three years through a new partnership with Coed Cadw, the Woodland Trust in Wales
  • 49 hectares of habitat created in Welsh Government woodland through slow the flow projects
  • Pond creation and wetland features created to slow water movement and store floodwater naturally
  • Over 6km of riverbank treated for invasive non-native plant species
  • Feasibility of seven pipe/Irish bridge structures investigated for replacement with clear-span crossings, restoring natural fish and sediment movement, in partnership with Powys Council

The project aims to protect species, enhance habitats and improve water quality, while strengthening climate resilience and supporting the goals of the recently announced Sustainable Farming Scheme.

Transforming the River Dee

In north Wales, NRW is leading the LIFE Dee River project - a £8.8 million EU funded programme restoring one of Europe’s most iconic rivers.

The River Dee and Llyn Tegid are designated as a Special Area of Conservation, supporting internationally important populations of salmon, lamprey and freshwater pearl mussel. The project is restoring natural river processes and reconnecting habitats across the 1,800 km² catchment.

Progress to date includes:

  • 20,000 trees planted
  • 46.5km of riverside fencing installed
  • 8,430 tonnes of gravel, boulders and woody material reintroduced
  • 13 barriers removed or adapted to improve fish migration
  • 840 metres of natural bank stabilisation
  • 14 forest drain culverts upgraded
  • 1 new forestry river crossing installed
  • Over 100 farm visits to improve agricultural practices

This work will ultimately improve ecological connectivity across 33km of river, enhance habitat along at least 55km of channel and support the recovery of the critically endangered freshwater pearl mussel.

The project is set to leave an impressive legacy and ensure the River Dee and the ecosystem it sustains will be there for the enjoyment of generations to come.

Restoring the Teifi, Tywi, Cleddau and Usk Rivers with the Four Rivers for LIFE

In mid and south Wales, NRW is delivering the Four Rivers for LIFE project – a river restoration programme focused on improving the ecological condition of the River Teifi, River Tywi, River Cleddau and River Usk Special Areas of Conservation (SACs).

Progress since launching in 2021 includes:

  • 45 farm visits to reduce sediment and nutrient inputs
  • 51km of riverside fencing installed
  • 26 hectares of riparian habitat created
  • 37,000 native trees planted
  • Over 200 tonnes of farm plastic recycled in 2025
  • 11 weather stations installed
  • 9 barriers removed or adapted for fish passage
  • 5,150 metres of riverbank cleared of Himalayan balsam
  • Invasive species removed from 50km of the River Usk
  • 1km of the Western Cleddau restored by re-introducing boulders
  • 14 large wood structures installed in the River Tarell
  • Floodplain reconnection delivered at Dinefwr on the River Tywi

Working in partnership with landowners, environmental organisations and local communities, the project is restoring natural river processes, improving water quality and enhancing habitats across 776km of river channel.

Nature-based solutions for people and wildlife

Healthy rivers are essential for wildlife, climate resilience and communities. They support agriculture and tourism, reduce flood risk and sustain iconic species such as salmon and otter.

By slowing river flows, reconnecting floodplains and restoring natural habitats, NRW’s projects are helping rivers better withstand extreme weather while improving biodiversity and water quality.

Nick Thomas, Strategic Projects Manager at NRW said:

“Rivers are the lifeblood of our landscapes and communities. On International Day of Action for Rivers, we are proud to highlight the progress being made across Wales - from the Upper Wye to the Dee and across four major SAC rivers in south Wales. These projects show that by working with nature, and in partnership with farmers, landowners and communities, we can restore our rivers for future generations.”

NRW will continue to expand its catchment-scale approach, working with partners, local communities and land managers to secure long-term improvements to river health across Wales.

ENDS

Cyfoeth Naturiol Cymru yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Gweithredu dros Afonydd drwy ddathlu’r gwaith o adfer afonydd ledled Cymru

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Gweithredu dros Afonydd (dydd Sadwrn 14 Mawrth 2026), mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn tynnu sylw at ei raglen adfer afonydd ar raddfa fawr ledled Cymru – gan gymryd camau i wella ansawdd dŵr, adfer cynefinoedd a meithrin gwydnwch i newid hinsawdd.

Mae afonydd ledled Cymru yn wynebu pwysau sylweddol, gan gynnwys newid hinsawdd, llygredd, dirywiad cynefinoedd a rhwystrau i bysgod sy’n mudo. Mae CNC yn ymateb drwy gynnig atebion hirdymor sy'n seiliedig ar natur, sy'n gweithio gyda phrosesau naturiol i adfer iechyd afonydd wrth gefnogi bywyd gwyllt, cymunedau ac economïau lleol.

Gweithredu ar raddfa dalgylch yn afon Gwy Uchaf

Yng nghanolbarth Cymru, mae Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf CNC – a ariennir gan Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru – yn gweithio mewn partneriaeth â ffermwyr a thirfeddianwyr i adfer rhannau uchaf Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) afon Gwy.

Mae dull y prosiect yn seiliedig ar gyd-ddylunio a chyfranogiad gwirfoddol, gan deilwra mesurau a ariennir yn llawn i ffermydd unigol a darparu buddion cronnus ar draws y dalgylch cyfan.

Ers lansio ym mis Gorffennaf 2024, mae'r gwaith a gyflawnwyd hyd yma yn cynnwys:

  • cwblhau 30 o ymweliadau gan gynghorydd fferm, gyda gwaith gwella wedi'i ariannu ar y gweill
  • gwella 8km o goridorau afonydd, gan gynnwys gosod ffensys atal stoc er mwyn amddiffyn glannau a chynefinoedd silio pysgod
  • gosod mannau yfed amgen i dda byw ar ffermydd i leihau erydiad ar y glannau a llygredd i’r dŵr
  • plannu tua 10,000 o goed glan yr afon brodorol, a bydd hyd at 30,000 o lasbrennau ychwanegol yn cael eu plannu dros dair blynedd trwy bartneriaeth newydd ag Ymddiriedolaeth Coed Cadw
  • creu 49 hectar o gynefin yng nghoetiroedd Llywodraeth Cymru drwy brosiectau arafu'r llif
  • creu pyllau dŵr a nodweddion gwlyptir i arafu symudiad dŵr a storio dŵr llifogydd yn naturiol
  • trin 6km o dir ar lan yr afon am rywogaethau estron goresgynnol
  • ymchwilio i ymarferoldeb saith strwythur pont pibell/ffos gerrig i'w disodli â chroesfannau rhychwant clir, gan adfer symudiad naturiol pysgod a gwaddod, mewn partneriaeth â Chyngor Powys.

Nod y prosiect yw gwarchod rhywogaethau, gwella cynefinoedd a gwella ansawdd dŵr, gan gryfhau gwydnwch hinsawdd a chefnogi nodau'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Trawsnewid afon Dyfrdwy

Yng ngogledd Cymru, mae CNC yn arwain prosiect LIFE afon Dyfrdwy – rhaglen gwerth £8.8 miliwn a ariennir gan yr UE sy'n adfer un o afonydd mwyaf eiconig Ewrop.

Mae afon Dyfrdwy a Llyn Tegid wedi'u dynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig, ac yn cynnal poblogaethau o eogiaid, llysywod pendoll a misglod perlog yr afon  sydd o bwys rhyngwladol. Mae'r prosiect yn adfer prosesau naturiol yr afon ac yn ailgysylltu cynefinoedd ar draws y dalgylch 1,800 km².

Mae'r cynnydd hyd yma yn cynnwys:

  • plannu 20,000 o goed
  • gosod 46.5km o ffens glan yr afon
  • ailgyflwyno 8,430 tunnell o raean, clogfeini a deunydd pren
  • tynnu neu addasu 13 o rwystrau i wella llwybrau mudo pysgod
  • sefydlogi 840 metr o lannau afonydd gan ddefnyddio dulliau naturiol
  • gwella 14 o gwlfertau draenio coedwig
  • gosod 1 groesfan afon newydd mewn coedwig
  • cynnal dros 100 o ymweliadau ffermydd i wella arferion amaethyddol

Yn y pen draw, bydd y gwaith hwn yn gwella cysylltedd ecolegol ar draws 33km o afon, yn gwella cynefinoedd ar hyd o leiaf 55km o sianeli ac yn cefnogi’r gwaith o adfer misglen berlog yr afon sydd mewn perygl difrifol.

Mae'r prosiect am adael gwaddol trawiadol a sicrhau y bydd afon Dyfrdwy a'r ecosystem y mae'n ei gynnal yno er mwynhad cenedlaethau'r dyfodol.

Adfer afon Teifi, afon Tywi, afon Cleddau ac afon Wysg gyda phrosiect Pedair Afon LIFE

Yng nghanolbarth a de Cymru, mae CNC yn cyflawni prosiect Pedair Afon LIFE – rhaglen adfer afonydd sy'n canolbwyntio ar wella cyflwr ecolegol Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) afon Teifi, afon Tywi, afon Cleddau ac afon Wysg.

Ers ei lansio yn 2021, mae'r gwaith a gyflawnwyd hyd yma yn cynnwys:

  • cwblhau 45 o ymweliad â ffermydd i leihau gwaddod a llygredd sy’n mynd i’r afonydd
  • gosod 51km o ffensys glan yr afon
  • creu 26 hectar o gynefin glannau afon
  • plannu 37,000 o goed brodorol
  • ailgylchu dros 200 tunnell o blastig fferm yn 2025
  • gosod 11 o orsafoedd tywydd
  • tynnu neu addasu 9 rhwystr i helpu llwybrau’r pysgod
  • clirio jac y neidiwr ar hyd 5,150 metr o lan yr afon
  • tynnu rhywogaethau goresgynnol o 50km o afon Wysg
  • 1km o’r Cleddau Wen wedi'i adfer drwy ailgyflwyno clogfeini
  • gosod 14 strwythur pren mawr yn afon Tarell
  • ailgysylltu gorlifdir yn Ninefwr ar afon Tywi

Gan weithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr, sefydliadau amgylcheddol a chymunedau lleol, mae'r prosiect yn adfer prosesau afonydd naturiol, yn gwella ansawdd dŵr ac yn gwella cynefinoedd ar draws 776km o sianeli afonydd.

Atebion sy'n seiliedig ar natur ar gyfer pobl a bywyd gwyllt

Mae afonydd iach yn hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt, gwydnwch hinsawdd a chymunedau. Maent yn cefnogi amaethyddiaeth a thwristiaeth, yn lleihau'r risg o lifogydd ac yn cynnal rhywogaethau eiconig fel eogiaid a dyfrgwn.

Drwy arafu llif afonydd, ailgysylltu gorlifdiroedd ac adfer cynefinoedd naturiol, mae prosiectau CNC yn helpu afonydd i wrthsefyll tywydd eithafol yn well wrth wella bioamrywiaeth ac ansawdd dŵr.

Dywedodd Nick Thomas, Rheolwr Prosiectau Strategol CNC:

“Afonydd yw enaid ein tirweddau a’n cymunedau. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Gweithredu dros Afonydd, rydym yn falch o dynnu sylw at y cynnydd sy'n cael ei wneud ledled Cymru - o afon Gwy Uchaf i afon Dyfrdwy ac ar draws  pedair afon ACA fawr yn ne Cymru. Mae'r prosiectau hyn yn dangos, drwy weithio gyda natur, ac mewn partneriaeth â ffermwyr, tirfeddianwyr a chymunedau, y gallwn adfer ein hafonydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Bydd CNC yn parhau i ddatblygu ei ddull ar raddfa dalgylch, gan weithio gyda phartneriaid, cymunedau lleol a rheolwyr tir i sicrhau gwelliannau hirdymor i iechyd afonydd ledled Cymru.

DIWEDD

 

 

Contact Information

Communications Team
Natural Resources Wales
cyfathrebu@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Notes to editors

Notes to editors

  • International Day of Action for Rivers takes place annually on 14 March.
  • NRW leads a range of river restoration programmes across Wales focused on improving water quality, habitat condition and climate resilience.
  • The Upper Wye Catchment Restoration Project is funded by Welsh Government’s Nature and Climate Emergency Fund.
  • LIFE Dee River is a £8.8m restoration project improving ecological connectivity and habitat condition in the River Dee and Llyn Tegid SAC.
  • Four Rivers for LIFE will improve 776km of river across the Teifi, Cleddau, Tywi and Usk SAC rivers in mid and south Wales.

 

For media enquiries, images or interviews, please contact:

communications@naturalresources.wales

Upper Wye Catchment Restoration Project

Email: adfergwyuchaf@cyfoethnaturiol.cymru 

LIFE Dee River

Email: lifedeeriver@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Four Rivers for LIFE

Email: 4AfonLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk