National Resources Wales News

25 May 2021

Review of condition of Wales’ protected natural features fuels calls for partnership approach to a nature-rich future

Review of condition of Wales’ protected natural features fuels calls for partnership approach to a nature-rich future: NRW logo CMYK stack(CC) (002)

EMBARGOED UNTIL 0001hrs TUESDAY 25 MAY 2021

CYMRAEG ISOD

A strong, all-Wales partnership approach to safeguarding Wales’ most valued species and habitats will be fundamental if the nation is to triumph over the interlinked challenges of climate change and the decline in biodiversity.

That is the clarion call from Natural Resources Wales (NRW) as it publishes the results of a project aimed at understanding the health and condition of species and habitats on Wales’ protected sites.

In the wake of its publication of the State of Natural Resources Report (SoNaRR) earlier this year, NRW has today published the results of its Protected Sites Baseline Evaluation review. The project was undertaken as a result of NRW’s strategy on Biodiversity, Vital Nature, which sets out the organisation’s ambition to improve the evidence base across the full range of protected sites.

By improving the understanding of the health of species and habitats on Wales’ Sites of Special Scientific Interest (SSSI), Special Areas of Conservation (SAC) and Special Protection Areas (SPA), NRW can better target improvement actions and support owners and managers of those sites.

The Baseline Evaluation results confirm that more information is needed on nearly 50% of the species and habitats of interest on our protected sites. The results also tell us that, where we do have the information on the features of interest, around 60% are in unfavourable condition.

The lack of information will need to be addressed through the development of innovative and more collaborative monitoring programmes, using the information gained to help steer the future management of protected sites.

The organisation now aims to rally the support of Wales’ environmental sector, planning and other public authorities, landowners and communities to help shape and deliver an ambitious action plan for nature, and help ensure the wider health of Wales’ ecosystems and the benefits they provide.

Ruth Jenkins, NRW’s Head of Natural Resource Management said:

“Wales’ Sites of Special Scientific Interest, Special Protection Areas and Special Areas of Conservation protect the very best examples of our precious natural environment and wildlife for future generations. Whilst it is an achievement to have drawn this information together from across the country, we fully accept that there are limitations to the extent of our evidence of the condition of some of the special species and features of these sites and we commit to invest in, and to support others, to make improvements.

“NRW has a broad range of scientific and practical expertise to support this work, and several successful interventions to conserve these sites are already in place. Many of these sites are owned and managed by individuals who will require a range of support from NRW and others. As such, developing a monitoring programme for our protected sites that is fit for the future will also require the knowledge and experience of our stakeholders.

“Given the scale of the challenge before us, and as part of our endeavour to tackle the climate and nature emergencies, we want to join forces with our partners to turn our ambition to improve our monitoring programmes and our evidence base into action and support the delivery of effective site interventions in the future.”

The proposed action plan is set to be implemented in the year that the eyes of the world fall on landmark global events for nature and climate action - Nature COP15 in China in October, and the climate COP 26 in Glasgow in November.

It also comes in the year that NRW published the State of Natural Resources Report (SoNaRR) - the evidence base that assesses the sustainable management of natural resources in Wales. The report highlights the societal pressures that the natural environment face around fragmentation of habitat, over-exploitation of natural resources and pollution, as well as the impacts of climate change. It then goes on to propose opportunities for action to address these systemic challenges across aspects of Welsh life.

And with Wales looking to make a green recovery from the Covid-19 pandemic, NRW will now use the baseline review findings as a springboard to reach out to its partners to develop the plan for future monitoring that will play a key role in the overarching rescue plan for nature and the planet.

Ruth Jenkins continued:

“There is a raft of existing conservation and restoration work already underway from the work of individual land owners to volunteers right through to the big land and riverscape projects such as the Sands of LIFE sand dune restoration scheme, and the work to transform the River Dee. They are each having a significant impact, but we need to do more in the quest to reverse the decline in biodiversity.(See case studies in notes to editors).

“The action plan needed will build on projects already underway but will crucially draw in the knowledge and invaluable expertise of our partners, landowners and those who live and work in these special places.

“While the work will require further resource to develop and implement fully, the onus must be on designing the change that is required now before we are too late to reverse the decline. These sites are the places from which nature can recover and require our special attention.

“We can only do that by working across sectors, across policy areas and across our communities allowing the evidence from our monitoring review to be the catalyst for the collective action.”

ENDS

 

Adolygiad o gyflwr nodweddion naturiol gwarchodedig Cymru yn annog galwadau am dull partneriaeth i greu dyfodol lle mae natur yn ffynnu

Bydd dull partneriaeth cryf, Cymru gyfan i ddiogelu rhywogaethau a chynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru yn dyngedfennol os yw’r genedl am drechu heriau cysylltiedig newid hinsawdd a’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

Dyna'r alwad daer gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sydd heddiw wedi cyhoeddi canlyniadau prosiect sydd â’r nod o ddeall iechyd a chyflwr rhywogaethau a chynefinoedd ar safleoedd gwarchodedig Cymru.

Yn sgil gyhoeddi Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol 2020 yn gynharach eleni, mae CNC heddiw wedi cyheoddi canlyniadau ei adolygiad Gwerthusiad Gwaelodlin o Safleoedd Gwarchodedig. Sefydlwyd y prosiect mewn ymateb i gyhoeddi cyfeiriad strategol CNC ar gyfer bioamrywiaeth, Natur Hanfodol, sy'n nodi uchelgais y sefydliad i wella'r sylfaen dystiolaeth ar draws yr ystod lawn o safleoedd gwarchodedig.

Trwy wella’r dealltwriaeth o iechyd rhywogaethau a chynefinoedd ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) Cymru, gall CNC dargedu mesurau gwella yn well a chefnogi perchnogion a rheolwyr y safleoedd hynny. Y safleoedd hyn yw trysorau bioamrywiaeth Cymru ac maen nhw’n hanfodol wrth sicrhau iechyd ehangach ecosystemau Cymru.

Mae canlyniadau’r Gwerthusiad Gwaelodlin yn cadarnhau bod angen mwy o wybodaeth am bron i 50% o'r rhywogaethau a'r cynefinoedd o ddiddordeb ar ein safleoedd gwarchodedig. Lle mae gennym y wybodaeth am nodweddion diddordeb, mae'r canlyniadau hefyd yn dweud wrthym fod tua 60% mewn cyflwr anffafriol.

Bydd angen mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth trwy ddatblygu rhaglenni monitro arloesol a mwy cydweithredol, gan ddefnyddio’r wybodaeth a gafwyd i helpu i lywio rheolaeth safleoedd gwarchodedig yn y dyfodol.

Mae CNC nawr am ennyn cefnogaeth y sector amgylcheddol, awdurdodau cynllunio ac awdurdodau cyhoeddus eraill, tirfeddianwyr a chymunedau ar draws Cymru i helpu i lunio a chyflawni cynllun gweithredu arloesol ar gyfer natur, er mwyn sicrhau iechyd ehangach ecosystemau Cymru a'r buddion y maent yn eu darparu.

Dywedodd Ruth Jenkins, Pennaeth Rheoli Adnoddau Naturiol CNC:

“Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Cymru yn gwarchod yr enghreifftiau gorau o'n hamgylchedd naturiol a bywyd gwyllt gwerthfawr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Er bod casglu’r wybodaeth hon o bob rhan o'r wlad yn dipyn o gyrhaeddiad, rydym ni’n derbyn yn llwyr fod cyfyngiadau i raddau ein tystiolaeth o gyflwr rhai o rywogaethau a nodweddion arbennig y safleoedd hyn ac rydym yn ymrwymo i fuddsoddi mewn, ac i gefnogi eraill, i wneud gwelliannau.

“Mae gan CNC ystod eang o arbenigedd gwyddonol ac ymarferol, a mae llawer o ymyriadau llwyddiannus i gefnogi gwaith cadwraeth ar y safleoedd hyn eisoes ar waith.

“Mae llawer o'r safleoedd yma yn eiddo i ac yn cael eu rheoli gan unigolion a phartneriaid a fydd angen ystod o gefnogaeth gan CNC ac eraill. Oherwydd hynnu, bydd datblygu rhaglen fonitro ar gyfer ein safleoedd gwarchodedig sy'n addas ar gyfer y dyfodol hefyd yn gofyn am wybodaeth a phrofiad hanfodol ein rhanddeiliaid.

“O ystyried maint yr her sydd o’n blaenau, ac fel rhan o'n hymdrech i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, rydym ni eisiau ymuno â'n partneriaid i droi ein huchelgais i wella ein rhaglenni monitro a'n sylfaen dystiolaeth yn gamau gweithredu a chefnogi ymyriadau effeithiol ar safleoedd yn y dyfodol.”

Disgwylir i'r cynllun gweithredu arfaethedig gael ei roi ar waith yn y flwyddyn y bydd sylw’r byd ar ddigwyddiadau byd-eang pwysig ar gyfer gweithredu dros natur a’r hinsawdd - COP15 dros Natur yn Tsieina ym mis Hydref, a COP26 dros yr Hinsawdd yn Glasgow ym mis Tachwedd.

Daw hefyd yn y flwyddyn wnaeth CNC gyhoeddi Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol 2020. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y pwysau cymdeithasol y mae'r amgylchedd naturiol yn eu hwynebu o amgylch darnio cynefin, gor-ecsbloetio adnoddau naturiol a llygredd, yn ogystal ag effeithiau newid yn yr hinsawdd. Yna mae'n mynd ymlaen i gynnig cyfleoedd i weithredu i fynd i'r afael â'r heriau systemig hyn ar draws phob agwedd ar fywyd Cymru.

A gyda Chymru eisiau cyflawni adferiad gwyrdd yn sgil pandemig Covid-19, bydd CNC nawr yn defnyddio canfyddiadau'r adolygiad gwaelodlin fel man cychwyn i geisio cydweithio â’i bartneriaid i ddatblygu'r cynllun ar gyfer monitro yn y dyfodol a fydd yn chwarae rhan allweddol yn y cynllun achub trosfwaol ar gyfer natur a'r blaned.

Parhaodd Ruth Jenkins:

“O waith perchnogion tir unigol a wirfoddolwyr, drwodd i'r prosiectau tir mawr a thirlun fel cynllun adfer twyni tywod Twyni Byw, a’r gwaith i drawsnewid Afon Dyfrdwy, mae llu o waith cadwraeth ac adfer eisoes ar waith. Mae rhain eisoes yn cael effaith sylweddol ond mae angen i ni wneud mwy yn yr ymdrech i wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. (Gweler astudiaethau achos yn y nodiadau i olygyddion).

“Bydd y cynllun gweithredu rydym ni eisiau ei ddatblygu yn adeiladu ar brosiectau sydd eisoes ar waith, ond yn hanfodol bydd yn defnyddio gwybodaeth ac arbenigedd amhrisiadwy ein partneriaid, tirfeddianwyr a'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y lleoedd arbennig hyn.

“Er y bydd angen rhagor o adnoddau ar y gwaith i ddatblygu a gweithredu’n llawn, rhaid i’r cyfrifoldeb fod ar ddylunio’r newid sydd ei angen nawr, yn hytrach nag ymateb iddo mewn blynyddoedd i ddod. Y safleoedd hyn yw'r lleoedd y gall natur wella ac sydd angen ein sylw arbennig.”

“Dim ond trwy weithio ar draws sectorau, ar draws meysydd polisi ac ar draws ein cymunedau y gallwn wneud hynny a thrwy adael i’r adolygiad gwaelodlin fod yn gatalydd ar gyfer y camau cydweithredol sy’n ofynnol i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur dirfodol y mae amgylchedd Cymru yn eu hwynebu.”

DIWEDD

Contact Information

Llinos Merriman
Senior Communications Officer
Natural Resources Wales
llinos.merriman@naturalresourceswales.gov.uk

Notes to editors

CASE STUDIES

  • LIFE Dee River Project

This restoration project aims to transform the River Dee and its surroundings, to help improve declining fish populations and rare wildlife in the area. Conservation work carried out during the project will help the entire river ecosystem, by improving fish migration, biodiversity, and habitats for birds and mammals. It will also improve water quality and the safety of recreational use.

Working in partnership with local communities, landowners and contractors, the project will include weir removals, constructing fish passages, improving the river channel, and adapting farming and forestry practices. It will also focus on rearing and releasing the critically endangered freshwater pearl mussel, until the population is re-established.

Read more about the project here: Natural Resources Wales / NRW launches £6.8 million LIFE Dee River project

  • LIFE Welsh Raised Bogs

The LIFE Welsh Raised Bogs project is the first national restoration programme for raised bogs and for any peatland habitat in Wales.

Healthy peatland and raised bogs in good condition absorb carbon from the atmosphere which means they are important in the fight against climate change. If raised bogs are not in good condition they release harmful carbon into the atmosphere.

The project aims to restore seven of the very best examples of raised bogs in Wales to a better condition.

In partnership with local communities, landowners and contractors, the project will improve the natural water levels of the peatland, remove invasive species and scrub and introduce light grazing.

Read more about the project here: Natural Resources Wales / New LIFE for Welsh Raised Bogs

  • Sands of LIFE

Sands of LIFE is a major conservation project aimed at revitalising sand dunes across Wales. It will recreate natural movement in the dunes and rejuvenate habitats which are home to some of our rarest wildlife.

The NRW-led project will restore over 2400 hectares of sand dunes, across four Special Areas of Conservation, on 10 separate Welsh sites. As well as being reservoirs of biodiversity, our sand dunes help safeguard our wider environment by providing a natural solution to flood defence and coastal erosion as well as maintaining water flows and supporting vital pollinators.

Over the last 80 years, nearly 90% of the open sand has disappeared, replaced by dense grass and scrub. The dunes have become stable and fixed, and rare wildlife has disappeared. This change has been caused by factors such as the introduction of non-native plants, lack of traditional grazing, a declining rabbit population and air pollution.

The Sands of LIFE project will rejuvenate these internationally important sand dune sites through an ambitious range of actions including, re-profiling dunes and creating bare sand to allow sand to move again, promoting sustainable grazing practices by livestock and rabbits, and removing scrub and invasive non-native species which are smothering and stabilising the dunes.

Read more about the project here: Natural Resources Wales / Sands of LIFE

  • National Peatland Action Programme 2020-2025

NRW and partners have successfully delivered the first year of an initial five-year National Programme to deliver action on peatlands to address the Nature Crisis and Climate Change Emergency in Wales. We are now moving into the second year of the programme.

Wales’ first national peatland action programme outlines a plan of action to be taken over the next five years with six priority themes:

    • Peatland erosion
    • Peatland drainage
    • Sustainable management of blanket peats
    • Sustainable management of lowland peats
    • The restoration of afforested peatlands
    • The gradual restoration of our highest carbon emitting peatlands

The programme will target those peatland bodies most in need of restoration with the aim of delivering 600-800 hectares of restoration per year. It will also safeguard those in good and recovering condition.

Activity will be delivered by NRW and partners across a range of land uses on both private and public land.

Read more about the National Peatland Action Programme here: Natural Resources Wales / National Peatland Action Programme 2020-2025

  • Restoring native oysters

The first native oyster conservation project in the Milford Haven estuary aims to trial different approaches to restore the environmentally important native oyster and associated habitat.

Native oysters filter and clean water and provide essential habitats for fish, crustaceans and other species. They lock away carbon, and filter particles and nutrients from the water, and play a vital role towards offsetting the effects of climate change.

Oysters help to improve the resilience of our marine ecosystems so restoring these habitats will provide benefits for people and for the wider environment.

Once widespread across Wales, there have been significant declines of oyster habitats over the last century.

Historic over-exploitation, changes in water quality, and disease are likely to have driven this decline.

These factors left too few individuals in the wild to produce new offspring and bring about natural population recovery – it is unlikely the species will recuperate without intervention.

Working with a team of marine scientists and aquaculture experts, including a local oyster farming businesses NRW have introduced juvenile oysters and clean shell material in a series of trials over several historic oyster grounds.

The areas will be monitored to check that oysters are surviving, growing and if there is evidence of reproduction.

NOTES TO EDITORS

  • The data from the Protected Sites Baseline Evaluation project will be published at 0900hrs 25 May 2021 on the NRW website. 
  • The Protected Sites Baseline Evaluation project was established to understand the quality of the protected sites evidence base and inform the development of a more comprehensive terrestrial monitoring strategy.
  • Using currently available evidence the range of species, habitat and earth science interests on protected sites were reviewed and, if sufficient information was available, indicative condition assessments produced. Such condition data allows us to understand the relative ‘health’ of the key species and habitats.
  • The assessments are a result of a combination of evidence reviews and expert opinion and so reflect the views at the time of assessment based on the available evidence and assessors view of the feature. As a result, additional information or clarification around existing evidence may result in future updates to the indicative assessment or its confidence rating.
  • Communications office: 029 2046 4227 / communications@naturalresources.wales (24hrs)

 

 

ASTUDIAETHAU ACHOS 

  • Prosiect Afon Dyfrdwy LIFE

Mae'r prosiect adfer afon hon yn anelu at drawsnewid Afon Dyfrdwy a'i hamgylchoedd er mwyn gwella poblogaethau pysgod sy'n dirywio a bywyd gwyllt prin yn yr ardal.

Bydd y gwaith cadwraeth a wneir yn ystod y prosiect o gymorth i ecosystem gyfan yr afon, trwy wella mudiad pysgod, bioamrywiaeth a chynefinoedd ar gyfer adar a mamaliaid. Bydd hefyd yn gwella ansawdd y dŵr a diogelwch o safbwynt defnydd hamdden.

Trwy weithio mewn partneriaeth â'r cymunedau lleol, tirfeddianwyr a chontractwyr, bydd y prosiect yn cynnwys tynnu coredau, adeiladu llwybrau pysgod, gwella sianel yr afon, ac addasu arferion ffermio a choedwigaeth. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar fagu a rhyddhau'r fisglen berlog, sydd mewn perygl difrifol, hyd nes bod ei phoblogaeth wedi ei ailsefydlu.

Darllenwch mwy am by brosiect yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / CNC yn lansio prosiect Afon Dyfrdwy LIFE gwerth £6.8 miliwn (naturalresources.wales) 

  • Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE

Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yw'r rhaglen adfer genedlaethol gyntaf ar gyfer cyforgorsydd ac ar gyfer unrhyw gynefin mawndir yng Nghymru.

Mae mawndir iach a chyforgorsydd mewn cyflwr da yn amsugno carbon o'r atmosffer sy'n golygu eu bod yn bwysig yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Os nad yw cyforgorsydd mewn cyflwr da maent yn rhyddhau carbon niweidiol i'r atmosffer.

Nod y prosiect arloesol ac uchelgeisiol yw adfer 7 o'r enghreifftiau gorau o gyforgorsydd yng Nghymru.

Mewn partneriaeth â chontractwyr, tirfeddianwyr a chymunedau lleol, bydd ein gwaith yn cynnwys gwella cyflwr y mawndiroedd, cael gwared ar brysgwydd a rhywogaethau goresgynnol a chyflwyno arferion pori ysgafn.

Darllenwch myw am y brosiect yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Adfywio Cyforgorsydd Cymru (naturalresources.wales)

  • Twyni Byw

Prosiect cadwraeth pwysig yw Twyni Byw / Sands of LIFE a'i nod yw adfywio twyni tywod ledled Cymru. Bydd yn ail-greu symudiad naturiol yn y twyni ac yn adfywio cynefinoedd sy'n gartref i rai o'n bywyd gwyllt mwyaf prin.

Mae'r prosiect s'yn cael ei arwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn adfer mwy na 2400 hectar o dwyni tywod mewn pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle gwahanol yng Nghymru.

Yn ogystal â bod yn gronfeydd o fioamrywiaeth mae ein twyni yn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd ehangach drwy ddarparu ateb naturiol wrth amddiffyn yn erbyn llifogydd ac erydiad arfordirol yn ogystal â chynnal llif dŵr a chynorthwyo peillwyr hanfodol.

Dros yr 80 mlynedd diwethaf mae oddeutu 90% o'r tywod agored wedi diflannu ac wedi cael ei ddisodli gan laswellt trwchus a phrysgwydd. O ganlyniad mae'r twyni wedi sefydlogi a llonyddu ac mae bywyd gwyllt prin wedi diflannu.

Achoswyd y newid hwn gan ffactorau megis cyflwyno planhigion anfrodorol, diffyg pori traddodiadol, dirywiad ym mhoblogaeth y cwningod a llygredd aer.

Bydd y prosiect yn adnewyddu'r safleoedd twyni tywod hyn sydd o bwys rhyngwladol drwy amrediad uchelgeisiol o gamau gweithredu yn cynnwys ail-broffilio twyni a chreu tywod moel i ganiatáu i'r tywod symud unwaith eto, gostwng arwyneb llaciau twyni sydd wedi sychu (pantiau) i ail greu pyllau a chynefin gwlyb, hyrwyddo arferion pori cynaliadwy gan dda byw a chwningod, a chael gwared o brysgwydd a rhywogaethau anfrodorol goresgynnol sy'n mygu'r twyni ac yn eu sefydlogi.

Darllenwch mwy am y brosiect yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Twyni Byw (naturalresources.wales)

  • Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndir 2020-2025

Mae CNC a phartneriaid wedi llwyddo i gyflawni blwyddyn gyntaf rhaglen genedlaethol bum mlynedd gychwynnol i weithredu ar fawndiroedd i fynd i'r afael â'r Argyfwng Natur a'r Argyfwng Newid Hinsawdd yng Nghymru. Rydym nawr yn symud i mewn i ail flwyddyn y rhaglen.

Mae’r rhaglen weithredu genedlaethol gyntaf yng Nghymru yn cyflwyno cynllun gweithredu pum mlynedd ar gyfer mawnidroedd, gyda chwe thema â blaenoriaeth:

  • Erydiad mawndir
  • Draenio mawndir
  • Rheoli gorfawn yn gynaliadwy
  • Rheoli mawnau’r iseldir yn gynaliadwy
  • Adfer mawndir a goedwigiwyd
  • Adfer yn raddol ein mawndiroedd sy’n rhyddhau’r mwyaf o garbon.

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar y mawndiroedd hynny sydd fwyaf angen eu hadfer, gyda’r nod o adfer 600-800 hectar o dir bob blwyddyn. Bydd hefyd yn diogelu’r rhai hynny sydd mewn cyflwr da neu sy’n adfer yn barod. Cyflawnir y rhaglen gan Gyfoeth Naturiol Cymru a’i bartneriaid ar dir preifat a chyhoeddus a ddefnyddir at amrywiaeth o ddibenion.

Darllenwch mwy am y brosiect yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndir 2020-2025 (naturalresources.wales)

  • Adfer wystrys brodorol

Mae prosiect cadwraeth cyffrous newydd yn Aberdaugleddau yn ymchwilio i hyfywedd adfer yr wystrys brodorol. Nod y prosiect arloesol hwn yw treialu gwahanol ddulliau i adfer yr wystrys brodorol a'r cynefin cysylltiedig sy'n bwysig yn amgylcheddol.

Mae wystrys brodorol yn hidlo ac yn glanhau dŵr ac yn darparu cynefinoedd hanfodol ar gyfer pysgod, cramenogion a rhywogaethau eraill. Maen nhw'n cloi carbon i ffwrdd, ac yn hidlo gronynnau a maetholion o'r dŵr, felly maen nhw'n chwarae rhan hanfodol tuag at wrthbwyso effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Mae wystrys yn helpu i wella gwytnwch ein hecosystemau morol felly bydd adfer y cynefinoedd hyn yn darparu buddion i bobl ac i'r amgylchedd ehangach.

Roedden nhw unwaith yn eang ledled Cymru, ond bu dirywiad sylweddol mewn cynefinoedd wystrys dros y ganrif ddiwethaf. Mae gor-ecsbloetio hanesyddol, newidiadau yn ansawdd dŵr a chlefydau yn debygol o fod wedi gyrru'r dirywiad hwn.

Gadawodd y ffactorau hyn niferoedd rhy isel yn y gwyllt i gynhyrchu epil newydd a sicrhau adferiad naturiol yn y boblogaeth - mae'n annhebygol y bydd y rhywogaeth yn gwella heb ymyrraeth.

Gan weithio gyda thîm o wyddonwyr morol ac arbenigwyr dyframaethu, gan gynnwys busnes ffermio wystrys lleol, mae CNC wedi cyflwyno wystrys ifanc a deunydd cregyn glân mewn cyfres o dreialon dros sawl tir wystrys hanesyddol.

Bydd yr ardaloedd yn cael eu monitro i wirio bod wystrys yn goroesi, yn tyfu ac a oes tystiolaeth o atgenhedlu.

NODIADAU I OLYGYDDION 

  • Gan ddefnyddio'r dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, adolygwyd yr ystod o nodweddion rhywogaethau, cynefinoedd a gwyddorau’r daear ar safleoedd gwarchodedig ac, os oedd digon o wybodaeth ar gael, cynhyrchwyd asesiadau cyflwr dangosol. Mae data cyflwr o’r fath yn caniatáu inni ddeall ‘iechyd’ cymharol y rhywogaethau a’r cynefinoedd allweddol.
  • Mae'r asesiadau'n ganlyniad cyfuniad o adolygiadau tystiolaeth a barn arbenigol ac felly maen nhw’n adlewyrchu'r safbwyntiau ar adeg yr asesiad yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael a barn aseswyr o'r nodwedd. O ganlyniad, gall gwybodaeth ychwanegol neu eglurhad ynghylch tystiolaeth bresennol arwain at ddiweddariadau i'r asesiad dangosol neu ei sgôr hyder yn y dyfodol.

  • Swyddfa cyfathrebu: 029 2046 4227 / cyfathrebu@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk (24awr)