National Resources Wales News

16 Apr 2024

River restoration tops the agenda at Llandudno conference

River restoration tops the agenda at Llandudno conference: Horseshoe Falls - River Dee - credit NRW

NR04-DT-M                                                

A range of projects with ambitions to bring Wales’s rivers back to life will be showcased to an audience of experts from across the UK later this month when they gather at the River Restoration Centre (RRC) Annual Network Conference at Venue Cymru in Llandudno (24-26 April).

Hosted for the first time in Wales, the event is partnering with Natural Resources Wales’ (NRW) LIFE Dee River project and will highlight the project’s many river restoration accomplishments along the largest river in north Wales, the River Dee Special Area of Conservation (SAC).

The conference programme will feature two keynote speakers and 45 other presentations on topics such as climate change resilience, gravel management, restoration for fish, landowner engagement and citizen science.

The RRC is at the forefront of river restoration, habitat enhancement and catchment management and provides expert advice on rivers in Wales and the rest of the UK.

There are nine SAC rivers in Wales designated under the 2017 Habitats Regulations. They are the Cleddau, Eden, Gwyrfai, Teifi, Tywi, Glaslyn, Dee, Usk and Wye.

These rivers support some of Wales’ most special and rare wildlife like Atlantic salmon, freshwater pearl mussel, white-clawed crayfish and floating water-plantain. 

There are many river restoration project taking place across Wales, from the LIFE Dee River in the north to the Four Rivers for LIFE in the south, with more river restoration projects on the way.

Martin Janes, River Restoration Centre Managing Director said: “We are delighted to hold the conference in Wales for the first time in 25 years of running the event. There are so many exciting and innovative river restoration projects happening in Wales at the moment that it seemed the perfect choice. Our audience agrees, with over 400 people due to attend.”

Joel Rees-Jones Manager of the LIFE Dee River project said: “The conference is a wonderful opportunity to show what we have achieved as a project and to share ideas and gain insights into other projects that are leading the way when it comes to river restoration.”

This year the UK River Prize Finalists will also be announced. The prize celebrates the achievements of those projects that have improved the natural functioning and ecological integrity of rivers and catchments.

To find out more please visit RRC Annual Conference 2024 | The RRC

Adfer afonydd ar frig yr agenda yng nghynhadledd Llandudno

Bydd amrywiaeth o brosiectau sy’n awyddus i ddod â bywyd yn ôl i afonydd Cymru yn cael eu harddangos i gynulleidfa o arbenigwyr o bob cwr o’r DU yn ddiweddarach y mis hwn pan fyddant yn ymgynnull yng Nghynhadledd Rhwydwaith Flynyddol y Ganolfan Adfer Afonydd (RRC) yn Venue Cymru yn Llandudno (24-26 Ebrill).

Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei gynnal am y tro cyntaf yng Nghymru, yn gweithio mewn partneriaeth â phrosiect LIFE Afon Dyfrdwy Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a bydd yn tynnu sylw at lwyddiannau niferus y prosiect i adfer afonydd ar hyd afon fwyaf Gogledd Cymru, sef Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Dyfrdwy.

Bydd rhaglen y gynhadledd yn cynnwys dau brif siaradwr a 45 o gyflwyniadau eraill ar bynciau megis gwrthsefyll newid hinsawdd, rheoli graean, adfer pysgod, ymgysylltu â thirfeddianwyr a gwyddoniaeth dinasyddion.

Mae’r RRC ar flaen y gad o ran adfer afonydd, gwella cynefinoedd a rheoli dalgylchoedd ac mae’n darparu cyngor arbenigol ar afonydd yng Nghymru a gweddill y DU.

Mae naw afon ACA yng Nghymru wedi’u dynodi o dan Reoliadau Cynefinoedd 2017 sef: Afonydd Cleddau, Eden, Gwyrfai, Teifi, Tywi, Glaslyn, Dyfrdwy, Wysg a Gwy.

Mae'r afonydd hyn yn cynnal rhywfaint o fywyd gwyllt mwyaf arbennig a phrin Cymru fel yr eog, y fisglen berlog dŵr croyw, cimwch afon crafanc wen a llyriad-y-dŵr arnofiol. 

Mae llawer o brosiectau adfer afonydd yn cael eu cynnal ledled Cymru, o Afon Dyfrdwy LIFE yn y gogledd i Brosiect Pedair Afon LIFE yn y de, gyda mwy o brosiectau adfer afonydd ar y ffordd.

Meddai Martin Janes, Rheolwr Gyfarwyddwr y Ganolfan Adfer Afonydd: “Rydym yn falch iawn o gynnal y gynhadledd yng Nghymru am y tro cyntaf ers inni ddechrau cynnal y digwyddiad 25 mlynedd yn ôl. Mae cymaint o brosiectau cyffrous ac arloesol i adfer afonydd yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd felly mae’n ddewis perffaith. Mae ein cynulleidfa’n cytuno, oherwydd dylai mwy na 400 o bobl ddod draw.”

Meddai Joel Rees-Jones, Rheolwr prosiect Afon Dyfrdwy LIFE : “Mae’r gynhadledd yn gyfle ardderchog i ddangos yr hyn rydym wedi’i gyflawni fel prosiect ac i rannu syniadau a chael cipolwg ar brosiectau eraill sy’n arwain y ffordd o ran adfer afonydd.”

Eleni hefyd cyhoeddir enwau’r rhai a ddaeth i’r brig yn Rownd Derfynol Gwobr Afonydd y DU. Mae'r wobr yn dathlu llwyddiannau'r prosiectau hynny sydd wedi gwella gweithrediad naturiol ac integredd ecolegol afonydd a dalgylchoedd.

Er mwyn cael gwybod mwy ewch i Gynhadledd Flynyddol RRC 2024 | Yr RRC

Contact Information

Notes to editors

Photo: Horseshoe Falls - River Dee - credit NRW

Notes to Editors:

NRW Communications office: 029 2046 4227 / communications@naturalresources.wales (24hrs)

  • We’re leading the way in the challenge of ensuring Wales can survive and thrive against the backdrop of the nature, climate and pollution emergencies - advising and regulating industry, and working with partners to improve the quality of our waters, the air we breathe and the land and special places that we manage sustainably. From flooding to pollution incidents, we’re always braced to keep people and wildlife safe from the impacts of environmental incidents 24/7. Every decision we make is rooted in evidence, the expertise of our colleagues and the passion of the people living in the communities that we work alongside every day.
  • For more information www.naturalresources.wales

RRC Communications: 01234 752979 /

Alexandra Bryden, rrc@theRRC.co.uk

  • The River Restoration Centre is an independent, UK-wide, not-for-profit that champions the natural and societal benefits of restoring river systems. We support river restoration by collating project information and evidence, developing best practice and sharing this knowledge throughout the river and catchment management community.
  • Each year the River Restoration Centre holds an Annual Network Conference that brings together professionals from all areas of river restoration including contractors, engineers, consultants, academics, trusts and NGOs, local organisations, and government agencies. The event is run over two days and includes over 50 speakers, workshop sessions and many other opportunities to network and make new contacts. Speakers present interesting and engaging presentations on their recent projects, current topics of interest, or their research.

For more information www.therrc.co.uk

River Restoration

River restoration is the re-establishment of natural physical processes (e.g. variation of flow and sediment movement), features (e.g. sediment sizes and river shape) and physical habitats of a river system (including submerged, bank and floodplain areas).[1]

Physical modification of rivers is a key pressure in the UK and the main reason why rivers are failing to achieve good ecological status. We actively promote the re-establishment of natural processes, features and biodiversity in river systems, and support the need for ‘space for water’ to allow reconnection of river channels with their floodplains and wetlands.

[1] The International Union for the Conservation of Nature (IUCN) National Committee UK (NCUK) ‘River Restoration and Biodiversity’.

Llun: Horseshoe Falls – Afon Dyfrdwy – credyD CNC 

Nodiadau i Olygyddion

Swyddfa gyfathrebu: 029 2046 4227 / communications@naturalresources.wales (24hrs)

  • Rydym ar flaen y gad yn yr her o sicrhau y gall Cymru oroesi a ffynnu yn wyneb yr argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd – ac rydym yn cynghori a rheoleiddio diwydiant, ac yn gweithio gyda’n partneriaid i wella ansawdd ein dyfroedd, yr aer rydym yn ei anadlu, a’r tir a’r lleoedd arbennig yr ydym yn eu rheoli’n gynaliadwy. O lifogydd i achosion o lygredd, rydym bob amser yn barod i gadw pobl a bywyd gwyllt yn ddiogel rhag effeithiau digwyddiadau amgylcheddol, 24/7 Rydym yn gwneud pob penderfyniad ar sail tystiolaeth, arbenigedd ein cydweithwyr, a brwdfrydedd y bobl sy’n byw yn y cymunedau rydym yn gweithio ochr yn ochr â nhw bob dydd.
  • Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ewch i www.naturalresources.wales

Cyfathrebu RRC: 01234 752979 /

Alexandra Bryden, rrc@theRRC.co.uk

  • Mae’r Ganolfan Adfer Afonydd yn ganolfan nid-er-elw annibynnol, ledled y DU, sy’n hyrwyddo buddion naturiol a chymdeithasol adfer systemau afonydd. Rydym yn cefnogi’r gwaith o adfer afonydd trwy gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y prosiect, datblygu arfer gorau a rhannu'r wybodaeth hon ledled y gymuned rheoli afonydd a dalgylchoedd.
  • Bob blwyddyn mae'r Ganolfan Adfer Afonydd yn cynnal Cynhadledd Rhwydwaith Flynyddol sy'n dod â gweithwyr proffesiynol at ei gilydd o bob maes adfer afonydd, gan gynnwys contractwyr, peirianwyr, ymgynghorwyr, academyddion, ymddiriedolaethau a chyrff anllywodraethol, sefydliadau lleol, ac asiantaethau'r llywodraeth. Cynhelir y digwyddiad dros ddau ddiwrnod ac mae’n cynnwys mwy na 50 o siaradwyr, sesiynau gweithdy a llawer o gyfleoedd eraill i rwydweithio a chreu cysylltiadau newydd. Mae siaradwyr yn rhoi cyflwyniadau diddorol a difyr am eu prosiectau diweddar, pynciau cyfredol o ddiddordeb, neu eu hymchwil.
  • Er mwyn cael rhagor o wybodaeth www.therrc.co.uk

    Adfer Afonydd

    Adfer afonydd yw ailsefydlu prosesau ffisegol naturiol (e.e. amrywio llif a symudiad gwaddod), nodweddion (e.e. maint gwaddod a siâp afon) a chynefinoedd ffisegol system afonydd (gan gynnwys ardaloedd tanddwr, glannau a gorlifdir).[1]

    Mae addasiadau ffisegol i afonydd yn broblem fawr yn y DU – dyna’r prif reswm pam y mae afonydd yn methu â chyflawni statws ecolegol da. Rydym yn hyrwyddo ailsefydlu prosesau naturiol, nodweddion a bioamrywiaeth mewn systemau afonydd, ac yn cefnogi'r angen am 'le ar gyfer dŵr' er mwyn gallu ailgysylltu sianeli afonydd â'u gorlifdiroedd a'u gwlyptiroedd.

    [1] Yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN), Pwyllgor Cenedlaethol y DU (NCUK) 'Adfer Afonydd a Bioamrywiaeth'.