National Resources Wales News

22 Nov 2024

Storm Bert brings flood risk to Wales this weekend

CYMRAEG ISOD

NR-11-DWG-FRM

Natural Resources Wales (NRW) is urging people to be alert for flooding this weekend as Storm Bert is expected to bring heavy, persistent rain and strong winds across Wales on Saturday (23 Nov) and into Sunday (24 Nov).  

Large swathes of Wales are expected to experience heavy rain, which could lead to surface water issues and cause rivers to rise rapidly – particularly as recent snowfall melts quickly. 

A yellow Met Office warning for rain is in place for most of Wales from 6am on Saturday until 6am on Sunday. A yellow wind warning is also in place spanning the North West and West Wales coastlines between 5am and 7pm on Saturday.  

NRW’s incident response teams are working with other emergency responders and local authorities, checking flood defences are in good working order and making preparations to help keep people and property safe.  

People are being urged to consider any steps they may need to take now to be prepared, and to take extra care if you need to travel this weekend: 

  • Think about how you can prepare your home and business now. Move valuables and vehicles to a higher location and think about packing a flood kit. NRW’s website has a range of information on how people can prepare for flooding. 

NRW will issue Flood Alerts and Warnings if rivers reach trigger levels with our teams monitoring levels 24 hours a day.   

Flood alerts mean that flooding is possible, flood warnings mean that flooding is expected, and severe flood warnings mean that there is a threat to life and significant disruption is expected. 

Katie Davies, NRW’s Duty Tactical Manager, said: 

“The predicted heavy rain and strong winds from Storm Bert, coupled with snowmelt is likely to cause disruption across Wales this weekend. – We’re advising people to keep up to date with flood alerts and warnings issued in their areas. 

“Making sure you know what the situation is like where you live is really important. You can check your flood risk and the latest flood alerts and warnings on our website which is refreshed every 15 minutes. Keep an eye on @NatResWales on X (formerly Twitter) for the latest information, and listen to weather reports and local news for details of any disruption in your area. 

“Our teams will be doing all they can to reduce the risk for communities, but if there is flooding we want to make sure people are doing all they can to keep themselves safe too. We urge people to keep away from swollen rivers, and not to drive or to walk through flood water – it is often deeper than it looks and contain hidden hazards.” 

Flood alerts and flood warnings are updated on the Natural Resources Wales website every 15 minutes. 

Information and updates are also available by calling Floodline on 0345 988 1188. 

As well as checking flood risk and signing up for warnings, people can also check our 5-day flood forecast for the local authority areas across Wales, and find practical advice on how to prepare for flooding, such as moving treasured possessions upstairs and having key items like important documents and medication easily to hand in a flood kit. 

--

Storm Bert i ddod â risg llifogydd i Gymru y penwythnos hwn

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl i fod yn barod am lifogydd y penwythnos hwn, wrth i Storm Bert ddod â glaw trwm, parhaus a gwyntoedd cryfion ledled Cymru ar ddydd Sadwrn (23 Tachwedd) ac i mewn i ddydd Sul (24 Tachwedd). 

Disgwylir i’r glaw ddisgyn ledled Cymru gyfan. Gall hyn arwain at broblemau dŵr wyneb, ac achosi afonydd i godi'n gyflym - yn enwedig wrth i'r eira diweddar doddi.

Mae rhybudd melyn ar waith gan y Swyddfa Dywydd am law ar gyfer rhan fwyaf o Gymru o 6yb ddydd Sadwrn hyd at 6yb ddydd Sul.  Mae yna hefyd rhybudd gwynt melyn ar waith yn cynnwys arfordiroedd Gogledd Orllewin a Gorllewin Cymru rhwng 5yb a 7yh ddydd Sadwrn.

Mae timau ymateb i ddigwyddiadau CNC yn gweithio gydag ymatebwyr brys eraill ac awdurdodau lleol i gadarnhau bod amddiffynfeydd llifogydd mewn cyflwr da, ac yn gwneud paratoadau i gadw pobl ac eiddo'n ddiogel.

Mae pobl yn cael eu hannog i ystyried unrhyw gamau y gallai fod angen iddynt eu cymryd nawr i fod yn barod, ac i gymryd gofal ychwanegol os oes angen i chi deithio:  

  • Cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim Cyfoeth Naturiol Cymru yn www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd neu drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188. 
  • Edrychwch ar y tudalennau rhybuddion llifogydd ar wefan CNC i gael negeseuon Llifogydd: Byddwch yn barod a a Rhybuddion Llifogydd lleol. Mae'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru bob 15 munud.  
  • Meddyliwch sut y gallwch chi baratoi eich cartref a'ch busnes nawr. Symudwch bethau gwerthfawr a cherbydau i leoliad uwch a meddyliwch am bacio pecyn llifogydd. Mae gan wefan CNC amrywiaeth o wybodaeth ar sut y gall pobl baratoi ar gyfer llifogydd.  

Bydd CNC yn cyhoeddi negeseuon Llifogydd: Byddwch yn barod a Rhybuddion Llifogydd os yw afonydd yn cyrraedd lefelau penodol a bydd ein timau'n monitro lefelau 24 awr y dydd. 

Mae negeseuon llifogydd: byddwch yn barod yn golygu bod llifogydd yn bosib, mae rhybuddion llifogydd yn golygu bod disgwyl llifogydd, ac mae rhybuddion llifogydd difrifol yn golygu bod bygythiad i fywyd ac y disgwylir problemau sylweddol.

Dywedodd Katie Davies, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd CNC: 

"Mae'r glaw trwm a'r gwyntoedd cryfion oherwydd Storm Bert, ynghyd â’r eira diweddar yn toddi, yn debygol o achosi trafferth ledled Cymru y penwythnos hwn. Felly rydym yn cynghori pobl i edrych ar y rhybuddion a'r hysbysiadau llifogydd a gyhoeddir yn eu hardaloedd."

"Mae gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut mae'r sefyllfa lle rydych chi'n byw yn bwysig iawn. Gallwch weld beth yw lefel eich perygl llifogydd a'r rhybuddion llifogydd diweddaraf ar ein gwefan sy'n cael ei hadnewyddu bob 15 munud. Cadwch lygad ar @NatResWales ar X (arfer bod yn Twitter) am y wybodaeth ddiweddaraf a gwrandewch ar adroddiadau tywydd a newyddion lleol am fanylion unrhyw broblemau yn eich ardal.

"Mae ein timau'n gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau'r risg i gymunedau, ond os oes llifogydd rydym am sicrhau bod pobl yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw eu hunain yn ddiogel hefyd. Rydym yn annog pobl i gadw draw o afonydd sydd â llif uchel, ac i beidio gyrru neu gerdded trwy ddŵr llifogydd - mae'n aml yn ddyfnach nag y mae'n ymddangos ac yn cynnwys peryglon cudd." 

Mae negeseuon llifogydd: byddwch yn barod a rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud.

Mae’r wybodaeth hefyd ar gael drwy ffonio’r llinell llifogydd ar 0345 988 1188. 

Yn ogystal ag edrych ar beryglon llifogydd a chofrestru i gael rhybuddion ar wefan CNC, gall pobl hefyd edrych ar y rhagolygon llifogydd 5 diwrnod ar gyfer ardaloedd o fewn awdurdodau lleol ledled Cymru. Gellir dod o hyd i gyngor ymarferol ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer llifogydd, fel symud eiddo gwerthfawr i fyny'r grisiau a chadw eitemau allweddol, fel dogfennau pwysig a meddyginiaeth mewn pecyn llifogydd y gellir cael gafael arno'n hawdd.

Contact Information

Communications Team
Natural Resources Wales
communications@naturalresourceswales.gov.uk

Notes to editors

  • We’re leading the way in the challenge of ensuring Wales can survive and thrive against the backdrop of the nature, climate and pollution emergencies - advising and regulating industry, and working with partners to improve the quality of our waters, the air we breathe and the land and special places that we manage sustainably. From flooding to pollution incidents, we’re always braced to keep people and wildlife safe from the impacts of environmental incidents 24/7. Every decision we make is rooted in evidence, the expertise of our colleagues and the passion of the people living in the communities that we work alongside every day. 
     
  • For more information www.naturalresources.wales 

Nodiadau i olygyddion: 

  • Rydym ar flaen y gad yn yr her o sicrhau y gall Cymru oroesi a ffynnu yn wyneb yr argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd - yn cynghori a rheoleiddio diwydiant, ac yn gweithio gyda’n partneriaid i wella ansawdd ein dyfroedd, yr aer rydym yn ei anadlu, a’r tir a’r llefydd arbennig rydym yn eu rheoli’n gynaliadwy. O lifogydd i achosion o lygredd, rydym bob amser yn barod i gadw pobl a bywyd gwyllt yn ddiogel rhag effeithiau digwyddiadau amgylcheddol, 24/7. Rydym yn gwneud pob penderfyniad ar sail tystiolaeth, arbenigedd ein cydweithwyr, a brwdfrydedd y bobl sy’n byw yn y cymunedau rydym yn gweithio ochr yn ochr â nhw bob dydd. 

Am fwy o wybodaeth: www.cyfoethnaturiol.cymru