National Resources Wales News

03 Sep 2021

UPDATED VERSION RE-ISSUED: Welsh peatland project joins Global Peat Press Project (GP3)

UPDATED VERSION RE-ISSUED: Welsh peatland project joins Global Peat Press Project (GP3): Cors Caron raised bog - credit Drew Buckley Photography

NR09-DT-M

Natural Resources Wales’ LIFE Welsh Raised Bogs Project is the latest partner to join a global network of organisations as they begin a communications collaboration.

The project will share the importance and value of peatlands as a nature-based solution to combat climate change, and to celebrate the successes of peatland restoration work.

The EU LIFE and Welsh Government funded LIFE Welsh Raised Bogs Project, is the first national restoration programme for raised bogs and for any peatland habitat in Wales.

The project aims to restore seven of the very best examples of raised bogs in Wales. Almost 4 square miles (over 900hectares) will be restored to a better condition. This represents 50% of this habitat in Wales and 5% in the UK.

The sites have suffered due to poor wetland management in the past and this has caused the sites to dry and allow invasive plants to take over, and crowd out important plants like sphagnum mosses, sundews and rare sedges.

Sphagnum forms the building blocks of raised bogs and as it slowly decomposes under waterlogged conditions it forms dark brown peat soil. A diversity of sphagnum is a sign of a healthy bog, and the peat it creates naturally absorbs and stores tonnes of carbon from the atmosphere, helping in the fight against climate change.

Peatlands in good condition provide many of the things which society relies upon; clean water, flood protection, carbon storage from the atmosphere, and are also great places for people to enjoy the outdoors.

Wildlife will also benefit from this restoration work, for example feeding areas for birds like redshank and snipe will increase, and the creation of shallow sphagnum pools will be perfect breeding areas for rare invertebrates like the small red damselfly during the spring and summer months.

Patrick Green, LIFE Welsh Raised Bogs Project Manager said: “Joining the GP3 is an exciting step for the project and we’re looking forward to contributing to the project by raising awareness of our restoration work here in Wales.” 

He adds: “It’s also great to work on a local level in Wales in the communities where our project sites can be found, as well as globally to raise awareness of the role of peatlands in tackling climate change.”

The relay of stories from peatland projects worldwide started with the UK as the host of the upcoming United Nations Climate Change Conference, COP26, taking place in Glasgow in November.

The joint effort will highlight the importance of peatlands to the planet and focus on the different ways that organisations around the world are working towards their conservation, restoration and sustainable management as we enter into the UN Decade of Ecosystem Restoration.

The Decade of Ecosystem Restoration aims to prevent, halt and reverse the degradation of ecosystems on every continent and in every ocean.

Dianna Kopansky, Global Peatlands Coordinator for GPI, said: “Linking up to raise awareness of the potential of healthy peatlands for climate action, nature protection and our overall well-being is vital. Peatlands are a neglected ecosystem and by profiling the incredible peatland restoration efforts across the globe we hope to awaken opportunities and inspire action.”

“Peatland conservationists from around the world are coming together to share their stories about the work they do and the work that needs to be completed to fight climate change. GPI welcomes this coordinated communications effort from our peatland partners. Together we will be highlighting peatland restoration during COP26 in Glasgow in November, and throughout the Decade of Ecosystem Restoration.”

Join us - share, learn, inspire, experience and act for peatlands, people and the planet. Follow and share using #PeatlandsMatter and #GenerationRestoration.

 

Prosiect mawndiroedd yng Nghymru’n ymuno â Phrosiect y Wasg Mawndiroedd Fyd-eang (GP3)

Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, yw’r partner diweddaraf i ymuno â rhwydwaith byd-eang o sefydliadau yn cychwyn ar gydweithrediad cyfathrebu.

Bydd y prosiect yn rhannu pwysigrwydd a gwerth mawndiroedd fel datrysiad seiliedig ar natur gyda golwg ar frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ac i ddathlu llwyddiannau gwaith adfer mawndiroedd.

Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE, a ariennir gan Raglen LIFE yr UE a Llywodraeth Cymru, yw'r rhaglen adfer genedlaethol gyntaf ar gyfer cyforgorsydd ac ar gyfer unrhyw gynefin mawndir yng Nghymru.

Nod y prosiect yw adfer saith o'r enghreifftiau gorau o gyforgorsydd yng Nghymru. Bydd bron i 4 milltir sgwâr (dros 900 hectar) yn cael eu hadfer i gyflwr gwell. Mae hyn yn cynrychioli 50% o'r cynefin hwn yng Nghymru a 5% yn y DU.

Mae'r safleoedd wedi dioddef oherwydd rheolaeth wael ar gwlyptiroedd yn y gorffennol ac mae hyn wedi peri i'r safleoedd sychu a chaniatáu i blanhigion ymledol gymryd drosodd, a chymryd lle planhigion pwysig fel migwyn, gwlithlys a hesg prin.

Migwyn yw sylfaen cyforgorsydd ac wrth iddo bydru’n araf dan amodau dwrlawn mae'n ffurfio pridd mawn brown tywyll. Mae amrywiaeth o figwyn yn arwydd o gors iach, ac mae'r mawn y mae'n ei greu yn amsugno ac yn storio’n naturiol dunelli o garbon o'r atmosffer, gan helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Mae mawndiroedd sydd mewn cyflwr da yn darparu llawer o'r pethau y mae cymdeithas yn dibynnu arnynt: dŵr glân, amddiffyniad rhag llifogydd, storfeydd ar gyfer carbon o'r atmosffer, ac maen nhw hefyd yn lleoedd gwych i bobl fwynhau'r awyr agored.

Bydd bywyd gwyllt hefyd yn elwa o'r gwaith adfer hwn, er enghraifft bydd ardaloedd bwydo ar gyfer adar fel y pibydd coesgoch a’r gïach cyffredin yn cynyddu, a bydd creu pyllau migwyn bas yn golygu mannau bridio perffaith ar gyfer infertebratau prin fel y fursen fach goch yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf.

Dywedodd Patrick Green, Rheolwr Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE: “Mae ymuno â’r GP3 yn gam cyffrous i’r prosiect ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfrannu trwy godi ymwybyddiaeth o’n gwaith adfer yma yng Nghymru.”

Ychwanega: “Mae hefyd yn wych gweithio ar lefel leol yng Nghymru yn y cymunedau lle mae safleoedd ein prosiect, yn ogystal ag yn fyd-eang er mwyn codi ymwybyddiaeth o rôl mawndiroedd wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.”

Dechreuodd y broses o gyfnewid straeon o brosiectau mawndir ledled y byd gyda'r DU fel lleoliad COP26, Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig a gynhelir yn Glasgow ym mis Tachwedd.

Bydd yr ymdrech ar y cyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd mawndiroedd i'r blaned ac yn canolbwyntio ar y gwahanol ffyrdd y mae sefydliadau ar draws y byd yn gweithio er mwyn eu gwarchod, eu hadfer a'u rheoli'n gynaliadwy wrth inni gychwyn ar Ddegawd Adfer Ecosystemau'r Cenhedloedd Unedig.

Nod y Degawd Adfer Ecosystemau yw rhwystro, atal a gwrthdroi dirywiad ecosystemau ar bob cyfandir ac ym mhob cefnfor.

Dywedodd Dianna Kopansky, Cydlynydd Mawndiroedd Byd-eang ar ran y GPI: “Mae cydgysylltu er mwyn codi ymwybyddiaeth o botensial mawndiroedd iach ar gyfer gweithredu ar ran yr hinsawdd, amddiffyn natur a’n lles cyffredinol yn hanfodol. Mae mawndiroedd yn ecosystem sy’n cael ei hesgeuluso a thrwy roi sylw i’r ymdrechion anhygoel sy’n digwydd i adfer mawndir ledled y byd, rydyn ni’n gobeithio ysgogi cyfleoedd ac ysbrydoli camau gweithredu.”

“Mae cadwraethwyr mawndir o bob cwr o'r byd yn dod at ei gilydd i rannu eu straeon am y gwaith maen nhw'n ei wneud a'r gwaith sydd angen ei gwblhau er mwyn brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae’r GPI yn croesawu'r ymdrech gyfathrebu gydlynol hon gan ein partneriaid ym maes mawndiroedd. Gyda'n gilydd, yn ystod COP26 yn Glasgow ym mis Tachwedd, byddwn yn tynnu sylw at adfer mawndiroedd, a thrwy gydol y Degawd Adfer Ecosystemau."

Ymunwch â ni - rhannwch, dysgwch, ysbrydolwch, profwch a gweithredwch dros fawndiroedd, dros bobl a'r blaned. Dilynwch a rhannwch gan ddefnyddio #PeatlandsMatter a #GenerationRestoration.

Contact Information

Notes to editors

Photo credit

  1. Cors Caron raised bog – credit Drew Buckley Photography

Notes to Editors:

 

Communications office: 029 2046 4227 / communications@naturalresources.wales (24hrs)

  • It’s our job to look after Wales’ natural resources and what they provide for us: to help reduce the risk to people and properties of flooding and pollution; to look after our special places for people’s well-being and wildlife; to provide timber; and to work with others to help us all manage them sustainably. Our people have the knowledge, expertise, and passion to help make the sustainable management of natural resources a reality.
  • The LIFE Welsh Raised Bogs project aims to restore seven of the most important raised peat bogs in Wales. The seven sites within the project are: Cors Caron near Tregaron, Cors Fochno near Aberystwyth, Cors Goch near Trawsfynydd, Rhos Goch near Builth Wells, Waun Ddu near Crickhowell, Cernydd Carmel near Crosshands and Esgyrn Bottom near Fishguard.
  • Raised bogs are home to rare plants and wildlife, but have deteriorated as invasive plants moved in. Restoration work on the project sites will reduce the dominance of invasive plants and scrub and will help improve the condition of the raised bogs, encouraging important sphagnum (bog mosses) to grow, allowing rare and important wildlife like the rosy marsh moth to thrive even more.
  • Raised bogs are designated as Special Area of Conservation (SAC) and are environmentally sensitive sites legally protected for their environmental interest.
  • The sites are important due to the sphagnum (bog mosses) that call it home. Sphagnum can hold more than eight times its own weight in water and helps to keep the bog wet and spongy, this keep the peat wet and results in it storing more carbon and helping to fight climate change.
  • Funding for the project has been given to NRW from an EU LIFE programme grant, with support from Welsh Government and Snowdonia National Park Authority.
  • For more information naturalresources.wales
  • Global Peatlands Initiative (GPI):

https://www.globalpeatlands.org/global-peat-press-project-gp3-campaign-kick-off/

  • The Global Peatlands Initiative is an effort by leading experts and institutions formed by 13 founding members at the UNFCCC COP in Marrakech, Morocco in 2016 to save peatlands as the world’s largest terrestrial organic carbon stock and to prevent it being emitted into the atmosphere. The current greenhouse gas emissions from drained or burned peatlands are estimated to amount up to five percent of the global carbon budget — in the range of two billion tonnes CO2 per year. Partners to the Initiative are working together within their respective areas of expertise to improve the conservation, restoration and sustainable management of peatlands. In this way the Initiative is contributing to several Sustainable Development Goals including by reducing greenhouse gas emissions, maintaining ecosystem services and securing lives and livelihoods through improved adaptive capacity.

Cydnabyddiaeth am y delweddau

  1. Cyforgors Cors Caron – credyd Drew Buckley Photography

Nodiadau i Olygyddion:

 

Swyddfa gyfathrebu: 029 2046 4227 / communications@naturalresources.wales (24awr)

  • Ein gwaith ni yw gofalu am adnoddau naturiol Cymru a’r hyn y maent yn ei ddarparu ar ein cyfer: helpu i leihau’r risg mae llifogydd a llygredd yn ei chyflwyno i bobl ac eiddo; gofalu am ein lleoedd arbennig ar gyfer llesiant pobl a bywyd gwyllt; darparu coed; a gweithio gydag eraill i'n helpu ni i gyd i'w rheoli'n gynaliadwy. Mae gan ein pobl y wybodaeth, yr arbenigedd a'r brwdfrydedd i helpu troi rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol yn realiti.
  • Nod Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yw adfer saith o'r cyforgorsydd mawn pwysicaf yng Nghymru. Y saith safle yn y prosiect yw: Cors Caron ger Tregaron, Cors Fochno ger Aberystwyth, Cors Goch ger Trawsfynydd, Rhos Goch ger Llanfair ym Muallt, Waun Ddu ger Crucywel, Cernydd Carmel ger Crosshands ac Esgyrn Bottom ger Abergwaun.
  • Mae cyforgorsydd yn gartref i blanhigion a bywyd gwyllt prin, ond maent wedi dirywio wrth i blanhigion ymledol symud i mewn. Bydd gwaith adfer ar safleoedd y prosiect yn lleihau goruchafiaeth planhigion ymledol a phrysgwydd a bydd yn helpu i wella cyflwr y cyforgorsydd, gan annog migwyn pwysig (mwsoglau’r gors) i dyfu, gan ganiatáu i fywyd gwyllt prin a phwysig fel gwyfyn gwrid y gors i ffynnu hyd yn oed yn fwy.
  • Dynodir cyforgorsydd yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac maent yn safleoedd amgylcheddol sensitif sy’n cael eu diogelu’n gyfreithiol oherwydd eu diddordeb amgylcheddol.
  • Mae'r safleoedd yn bwysig oherwydd y migwyn (mwsoglau’r gors) a geir ynddynt. Gall migwyn ddal mwy nag wyth gwaith ei bwysau ei hun mewn dŵr ac mae'n helpu i gadw'r gors yn wlyb ac yn sbyngaidd; mae hyn yn cadw'r mawn yn wlyb gan arwain at storio mwy o garbon a helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
  • Rhoddwyd cyllid ar gyfer y prosiect i CNC o grant rhaglen LIFE yr UE, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
  • Am fwy o wybodaeth naturalresources.wales
  • Menter Mawndiroedd Fyd-eang (GPI):

https://www.globalpeatlands.org/global-peat-press-project-gp3-campaign-kick-off/

Mae'r Fenter Mawndiroedd Fyd-eang yn ymgyrch gan arbenigwyr a sefydliadau blaenllaw a ffurfiwyd gan 13 aelod sefydlu yn COP UNFCCC ym Marrakech, Moroco yn 2016 i achub mawndiroedd fel storfa organig ddaearol fwyaf y byd o garbon ac er mwyn ei atal rhag cael ei ollwng i'r atmosffer. Amcangyfrifir bod yr allyriadau nwyon tŷ gwydr presennol o fawndiroedd sydd wedi'u draenio neu eu llosgi yn cyfateb i hyd at bump y cant o'r gyllideb garbon fyd-eang - oddeutu dwy biliwn tunnell o CO2 y flwyddyn. Mae partneriaid y Fenter yn gweithio gyda'i gilydd o fewn eu priod feysydd arbenigedd i wella’r modd y caiff mawndiroedd eu gwarchod, eu hadfer a’u rheoli’n gynaliadwy. Drwy hyn, mae'r Fenter yn cyfrannu at sawl Nod Datblygu Cynaliadwy sy’n cynnwys lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, cynnal gwasanaethau ecosystem a diogelu bywydau a bywoliaethau trwy wella’r gallu i addasu.