19 Aug 2020
CYMRAEG ISOD
The coronavirus lockdown had a profound effect on the natural world in north west Wales, a new environmental survey has revealed.
Undertaken over a three-week period in June at key sites in Snowdonia and Newborough on Anglesey, the survey shows that bird species and plant life flourished during lockdown due to fewer disturbances and less litter.
Naturalist Ben Porter was commissioned by Natural Resources Wales (NRW), Snowdonia National Park Authority and the National Trust to undertake the survey under the unique conditions experienced this spring.
With all relevant permissions in place, four uplands were surveyed - Snowdon, Cader Idris, Carneddau and Cwm Idwal – and the lowland areas of Coed y Brenin, Ceunant Llennyrch and Newborough/Llanddwyn.
Birds were found breeding on and near usually well-trodden paths, where plants and wild flowers could now flourish.
Less litter and picnic left-overs meant fewer predator species – such as herring gulls and foxes - which is likely to have given breeding birds a helping hand.
Insect life was also in abundance, due to the warm weather as well as the lockdown conditions.
Reflecting on the study, Ben Porter said: “It was an almost surreal experience to witness the absolute silence that pervaded the landscape in most of these sites, save for the sound of birdsong, trickling water and the odd bleating sheep or goat.
“One of the most obvious observations was the sheer abundance of species like meadow pipit and wheatear along the main pathways.
“Birds normally averse to the presence of people - such as common sandpiper and ring ouzel - were seen nesting close to paths too.
“Herring gulls were virtually absent from their usual nesting colony on Snowdon. They usually subsist on food waste from visitors, so lockdown probably impacted their ability to exist in the area this season.”
A remarkable diversity of plants was recorded along usually well-trodden paths – such as the mossy saxifrage, wild thyme and stagshorn clubmoss in abundance on the ascent from Cwm Idwal.
At all three of the lowland sites, nesting birds were found in places where they most likely would not have been in usual circumstances.
Some birds have had a very good year – such as the ringed plovers which nest on the beaches on and close to Llanddwyn Island. Though they nest here regularly, they have successfully reared good numbers of chicks this spring for the first time in many years, because lockdown left these normally busy beaches peculiarly quiet.
The survey provides valuable information as Wales works towards a green recovery from Covid 19.
Molly Lovatt, Senior Planning and Partnerships Officer for Natural Resources Wales said: “This was a unique opportunity to evaluate how wildlife, landscape and vegetation would respond to such unexpected conditions.
“The survey underlines the importance of the ‘tread lightly’ message we have been encouraging as more people return to visit our countryside and coast. We need to be sensitive to nature, to leave no trace of our visit so that wildlife can continue to thrive for future generations to enjoy.”
Dafydd Roberts, Senior Ecologist for Snowdonia National Park Authority, said: “The report raises many questions about how we manage the interaction between people and nature in the future as we try to strike the right balance between enabling people to enjoy this area’s fantastic natural heritage without disturbing and degrading the environment we all enjoy.”
Laura Hughes, Visitor Experience Manager for the National Trust said
"It is fantastic to see how nature has thrived during lockdown and the positive impact it has had on plants and wildlife, but we need everyone's help keeping it that way. It's great that so many of us are enjoying outdoor spaces, but we ask people to treat the countryside with care when you come and experience it."
The expectation is that the survey will be repeated next year to provide a direct comparison to this year’s results.
Read the full report: Wildlife in Lockdown
The survey will be repeated next year.
Watch Ben Porter’s ‘Lockdown wildlife’ slideshow on Youtube
ENDS
Cafodd y cyfnod clo yn sgil y coronafeirws effaith fawr ar y byd naturiol yng ngogledd-orllewin Cymru, yn ôl arolwg amgylcheddol newydd.
Cynhaliwyd yr arolwg dros gyfnod o dair wythnos ym mis Mehefin mewn safleoedd allweddol yn Eryri a Niwbwrch ar Ynys Môn, ac mae'n dangos bod rhywogaethau adar a phlanhigion wedi ffynnu yn ystod y cyfnod clo oherwydd bod llai o aflonyddwch a llai o sbwriel.
Cafodd y naturiaethwr Ben Porter ei gomisiynu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnal yr arolwg o dan yr amodau unigryw a gafwyd y gwanwyn hwn.
Ar ôl sicrhau pob caniatâd perthnasol, arolygwyd pedwar darn o ucheldir - yr Wyddfa, Cader Idris, y Carneddau a Chwm Idwal – ac iseldir yng Nghoed y Brenin, Ceunant Llennyrch a Niwbwrch/Llanddwyn.
Canfuwyd bod adar yn magu ar a gerllaw llwybrau sydd fel arfer yn brysur, lle gallai planhigion a blodau gwyllt yn awr ffynnu.
Roedd llai o sbwriel a bwyd dros ben o bicnics yn golygu bod llai o rywogaethau ysglyfaethus – fel gwylanod y penwaig a llwynogod - sy'n debygol o fod wedi rhoi help llaw i adar a oedd yn magu.
Roedd pryfed ar eu hennill hefyd, oherwydd y tywydd cynnes yn ogystal ag amodau’r cyfnod clo.
Wrth fyfyrio ar yr astudiaeth, meddai Ben Porter: "Roedd yn brofiad swreal bron, bod yn dyst i'r distawrwydd llwyr dros y dirwedd yn y rhan fwyaf o'r safleoedd hyn, ac eithrio sŵn adar yn canu, dŵr yn diferu ac ambell ddafad neu afr yn brefu.
"Un o'r canfyddiadau amlycaf oedd y doreth o rywogaethau fel corhedydd y waun a thinwen y garn ar hyd y prif lwybrau.
"Gwelwyd adar sydd fel arfer yn osgoi pobl - fel pibydd y dorlan a mwyalchen y mynydd - yn nythu'n agos at lwybrau hefyd.
"Prin iawn oedd gwylanod y penwaig yn eu nythfa arferol ar yr Wyddfa. Fel arfer maen nhw'n byw ar wastraff bwyd gan ymwelwyr, felly mae'n debyg bod y cyfnod clo wedi effeithio ar eu gallu i fodoli yn yr ardal y tymor hwn."
Cofnodwyd amrywiaeth ryfeddol o blanhigion ar hyd llwybrau sydd fel arfer yn brysur – fel torfaen llydandroed, teim gwyllt a'r cnwp-fwsogl corn carw rif y gwlith ar y ddringfa o Gwm Idwal.
Ym mhob un o'r tri safle iseldirol, darganfuwyd adar yn nythu mewn mannau lle mae’n debyg na fyddent yn nythu o dan amgylchiadau arferol.
Mae rhai adar wedi cael blwyddyn dda iawn – fel y cwtiad torchog sy'n nythu ar y traethau ar ac yn agos at Ynys Llanddwyn. Er bod y rhywogaeth yn nythu yma'n rheolaidd, mae wedi magu niferoedd da o gywion yn llwyddiannus y gwanwyn hwn am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, gan i’r cyfnod clo adael y traethau yma - sydd fel rheol yn llawn bwrlwm pobl - yn anarferol o dawel.
Mae'r arolwg yn darparu gwybodaeth werthfawr wrth i Gymru weithio tuag at adferiad gwyrdd ar ôl Covid-19.
Dywedodd Molly Lovatt, Uwch Swyddog Cynllunio a Phartneriaethau Cyfoeth Naturiol Cymru: "Roedd hwn yn gyfle unigryw i weld sut y byddai bywyd gwyllt, tirwedd a llystyfiant yn ymateb i amodau mor annisgwyl.
"Mae'r arolwg yn pwysleisio pwysigrwydd y neges 'troediwch yn ysgafn' yr ydym wedi bod yn annog wrth i fwy o bobl ddychwelyd i ymweld â'n cefn gwlad a'n harfordir. Mae angen i ni fod yn sensitif i natur, heb adael unrhyw olion o'n hymweliad, fel y gall bywyd gwyllt barhau i ffynnu er mwyn i genedlaethau'r dyfodol allu ei fwynhau."
Dywedodd Dafydd Roberts, Uwch Ecolegydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Mae'r adroddiad yn codi llawer o gwestiynau am y ffordd y byddwn ni’n rheoli'r modd y mae pobl a natur yn rhyngweithio yn y dyfodol wrth i ni geisio taro'r cydbwysedd cywir rhwng galluogi pobl i fwynhau treftadaeth naturiol wych yr ardal hon a pheidio ag amharchu a tharfu ar yr amgylchedd yr ydym i gyd yn ei fwynhau."
Dywedodd Laura Hughes, Rheolwr Profiad Ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
"Mae'n wych gweld sut mae natur wedi ffynnu yn ystod y cyfnod clo a'r effaith bositif y mae wedi'i chael ar blanhigion a bywyd gwyllt, ond mae angen cymorth pawb i gadw’r sefyllfa fel hyn. Mae'n grêt bod cymaint ohonon ni'n mwynhau mannau awyr agored, ond rydyn ni'n gofyn i bobl drin cefn gwlad gyda gofal pan fyddwch chi'n dod i ymweld."
Y disgwyl yw y bydd yr arolwg yn cael ei ailadrodd y flwyddyn nesaf i alluogi cymhariaeth uniongyrchol â chanlyniadau eleni.
Darllen yr adroddiad llawn: Bywyd Gwyllt yn ystod y Cyfnod Clo
Bydd yr arolwg yn cael ei ailadrodd y flwyddyn nesaf.
Gwylio sioe sleidiau Ben Porter ar YouTube am fywyd gwyllt yn y cyfnod clo...
Diwedd
Llinos Merriman
Senior Communications Officer
Natural Resources Wales
llinos.merriman@naturalresourceswales.gov.uk
NOTES TO EDITORS
All attached images copyright of Ben Porter. Please credit use of images accordingly.
NODIADAU I OLYGYDDION
Hawlfraint Ben Porter yn berthnasol i bob delwedd. Nodwch y manylion priodol wrth ddefnyddio’r lluniau, os gwelwch yn dda.